THE DETAILS:
  • Hours: Full time
  • Contract: Permanent
  • Salary Type: Annual
  • Salary: L9 - L13 (£64,174 - £70,814)
  • Language: Welsh
  • Closing Date: 12 October, 2025 12:00 AM
Apply Now (CY)

Apply Now (EN)

You will be taken to an external page to complete your application.

Pennaeth Cynorthwyol (Ysgol Bro Caereinion)

Powys County Council

Salary: L9 - L13 (£64,174 - £70,814)

Pennaeth Cynorthwyol (Ysgol Bro Caereinion)
Job description

Welsh language skills are essential

Mae sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol

YSGOL BRO CAEREINION

Pennaeth Cynorthwyol

Graddfa L9 - L13 (£64,174 - £70,814)

Mae'r swydd hon yn llawn amser ac yn barhaol a bydd yn dechrau ym mis Ionawr 2026.

Mae Ysgol Bro Caereinion yn awyddus i benodi Pennaeth Cynorthwyol uchelgeisiol, deinamig ac arloesol i ymuno â'r ysgol pob oed ar ddechrau pennod newydd gyffrous wrth iddi ddod yn ysgol Gymraeg flaenllaw ym Maldwyn, yng ngogledd Powys. Lleolir yr ysgol hon yn nhref marchnad Llanfair Caereinion, mewn ardal wledig hyfryd yng Nghanolbarth Cymru, wyth milltir o'r Trallwng ac o fewn awr o daith o Aberystwyth.

Mae Estyn, yn yr adroddiad craidd, Ebrill 2024, yn datgan bod Ysgol Bro Caereinion 'yn gymuned ysgol groesawgar lle caiff disgyblion eu parchu. Mae bron pob un o'r disgyblion yn ymddwyn yn dda iawn mewn gwersi ac o gwmpas adeiladau'r ysgol. Maent yn ymgysylltu'n gadarnhaol â'u dysgu'. I ddarllen yr adroddiad yn llawn cliciwch ar y ddolen hon: Adroddiad arolygiad Ysgol Bro Caereinion 2024

Dyma gyfle unigryw i unigolyn, sydd eisiau datblygu a meithrin profiad eang o arweinyddiaeth mewn ysgol sydd yn trawsnewid. Bydd cyfle euraidd i lunio dyfodol yr ysgol wrth iddi gychwyn ar ei thaith ar hyd continwwm yr iaith Gymraeg. Bydd cyfle hefyd i hyrwyddo rhagoriaeth ddwyieithog a chyfoethogi bywydau ein disgyblion a'n cymuned. Os ydych yn angerddol am ddysgu ac addysgu, blaenoriaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, ac yn awyddus i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o ddysgwyr hyderus, dwyieithog, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Croesewir ceisiadau gan athrawon cynradd ac uwchradd sydd â phrofiad arweinyddiaeth, waeth beth fo'u harbenigedd pwnc.

Mae angen arweinydd arnom sydd:

  • yn ymarferydd ystafell ddosbarth rhagorol gyda hanes profedig o lwyddiant, sy'n ymrwymedig i ddarparu profiadau dysgu o ansawdd uchel i bob disgybl
  • yn angerddol dros gynhwysiant, gan sicrhau bod pob plentyn yn cael y gefnogaeth a'r ddarpariaeth orau bosibl i wneud y mwyaf o'u potensial
  • yn meddu ar weledigaeth ac ysgogiad i sicrhau bod gan bob un o'n disgyblion a'n staff ddyheadau uchel a'u bod â'r gallu i lwyddo
  • yn ymrwymo i ddatblygu lles emosiynol, corfforol a meddyliol disgyblion drwy ddarparu cymuned ysgol ddiogel a pharchus lle mae pawb yn teimlo'n ddiogel
  • yn modelu ac yn meddu ar y sgiliau a'r profiad i reoli ac ysbrydoli staff wrth hyrwyddo cynhwysiant o fewn ysgol pob oed
  • yn angerddol dros ddarparu addysg ddwyieithog o'r safon uchaf, yn hyrwyddo a dathlu'r iaith Gymraeg yn y gymuned er mwyn cefnogi'r disgyblion a rhieni i ddeall a manteisio'n llawn o'r cyfleoedd ieithyddol
Dylid cyflwyno ceisiadau erbyn Dydd Llun 13eg o Hydref. Dylid cyflwyno ceisiadau yn ddwyieithog.

Medi 2025

Annwyl Ymgeisydd,

Diolch am fynegi diddordeb mewn ymuno ag Ysgol Bro Caereinion.

Agorodd Ysgol Bro Caereinion, ysgol pob oed 5-18 oed newydd, wedi'i lleoli yn Llanfair Caereinion yn 2022, yn dilyn uno Ysgol Uwchradd Caereinion ac Ysgol Gynradd Llanfair Caereinion. Roedd ein harolwg ESTYN diwethaf yn 2024 yn gadarnhaol iawn, a gellir darllen yr adroddiad trwy ddilyn y linc hwn. Adroddiad arolygiad Ysgol Bro Caereinion 2024 .

'Rydym am benodi Pennaeth Cynorthwyol i ymuno â'r tîm arwain i weithio ochr yn ochr â'r pennaeth a'n staff deinamig, llywodraethwyr gweithredol a chefnogol a bod yn rhan o'n teulu a chymuned ysgol ehangach.

Rydym yn falch o'n perthynas gyda'n ysgolion clwstwr a gyda'n gilydd yn gweithio er mwyn gwireddu gweledigaeth yr ysgol "O'n Bro, i'r Byd" ble mae ethos Cymreig cynhwysol cryf, lle mae pawb yn perthyn, yn ffynnu ac yn cyflawni eu potensial, ar y daith O'n Bro, i'r Byd yn cael ei wreiddio.

Rydym yn chwilio am bennaeth cynorthwyol a fydd, yn ogystal â bod yn ymarferydd rhagorol sydd â phrofiad mewn addysgeg, yn darparu arweinyddiaeth strategol uwch yn unol â'n gwerthoedd a bydd yn gweld Ysgol Bro Caereinion yn parhau i dyfu a ffynnu gan ddarparu'r addysg a'r gefnogaeth orau i holl ddisgyblion yr ysgol.

Gobeithiwn eich bod, fel darpar bennaeth cynorthwyol, yn ystyried hyn o ddifri wrth i ni gydweithio gyda'n gilydd er budd ein hysgol, ei dysgwyr, ei staff a'r gymuned ehangach. Peidiwch ag oedi i gysylltu gyda'r ysgol os dymunwch sgwrs neu i ddod i ymweld â'r ysgol.

Yn gywir

Myfanwy Alexander - Cadeirydd y Llywodraethwyr Anwen Orrells - Pennaeth

Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS