THE DETAILS:
  • Location: Rhondda Cynon Taf,
  • Hours: Part time
  • Contract: Temporary
  • Salary Type: Annual
  • Salary: Gradd 4 - £25,583 x 64.10%
  • Language: Welsh
  • Closing Date: 04 December, 2025 12:00 AM
Apply Now (CY)

Apply Now (EN)

You will be taken to an external page to complete your application.

Dros dro Cynorthwyydd Addysgu (Lefel 2) YGGG Llantrisant

Rhondda Cynon Taf

Salary: Gradd 4 - £25,583 x 64.10%

Dros dro Cynorthwyydd Addysgu (Lefel 2) YGGG Llantrisant

YSGOL GYNRADD GYMUNEDOL GYMRAEG LLANTRISANT

Ffordd Cefn yr Hendy, Meisgyn, Pontyclun. CF72 8TL

Rhif Ffon: 01443 237837

Dros dro - Cynorthwyydd Addysgu (Lefel 2)

Dosbarth Meithrin a Chamau Cynnydd 1, 2 a 3

27 awr yr wythnos – yn ystod tymhorau’r ysgol yn unig – tan 31.03.26 yn y lle cyntaf

Cyflog – Gradd 4 - £25,583 x 64.10% - yn angen cyn gynted ag y bo modd

Ysgol Gymraeg ei chyfrwng sydd wedi ei lleoli yng nghanol pentref Meisgyn ydy Ysgol Gynradd Gymunedol Gymraeg Llantrisant. Ysgol lwyddiannus sy’n meddu ar safonau cyrhaeddiad a disgwyliadau uchel iawn yw hi. Ar hyn o bryd mae 205 o ddisgyblion yn yr ysgol. Mae’r Bwrdd Llywodraethu am benodi’r aelod o staff cynorthwyol i ddechrau yn syth.

Ydych chi’n berson yn angerddol am gefnogi plant ifanc yn eu camau cyntaf o ddysgu? Ydych chi’n chwilio am rôl lle gallwch wneud gwahaniaeth go iawn bob dydd? Os felly, rydym am glywed gennych.

Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Addysgu Lefel 2 i ymuno â’n tîm gofalgar a chreadigol yn y dosbarth Meithrin ac i weithio ar draws y Camau Cynnydd. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â’r athrawon dosbarth i ddarparu amgylchedd dysgu cyfoethog, cefnogol ac ysbrydoledig i blant ifanc wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau cymdeithasol, emosiynol a gwybyddol.

Beth rydym yn chwilio amdano:
  • Brwdfrydedd dros addysg a datblygiad plant
  • Egni a pharodrwydd i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol a chreadigol
  • Hyblygrwydd i weithio mewn amgylchedd deinamig lle mae pob diwrnod yn wahanol
  • Sgiliau cyfathrebu da a’r gallu i weithio’n effeithiol fel rhan o dîm
  • Y gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg
Beth rydym yn ei gynnig:
  • Amgylchedd ysgol gynnes a chroesawgar
  • Cefnogaeth barhaus a chyfleoedd datblygu proffesiynol
  • Cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant ifanc
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Iau 04 Rhagfyr 2025 am hanner nos.

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.