THE DETAILS:
Apply Now (CY)
- Location: Llanfair Caereinion,
- Salary Type: Annual
- Salary: Prif raddfa cyflog: £33,731 - £51,942
- Language: Welsh
- Closing Date: 08 December, 2025 12:00 AM
Apply Now (EN)
You will be taken to an external page to complete your application.
Salary: Prif raddfa cyflog: £33,731 - £51,942
Welsh and Drama Teacher (Ysgol Bro Caereinion)Job description
Welsh and drama and / or dance teacher at Ysgol Bro Caereinion.
This is a role where the ability to read, write and speak in Welsh
(Common European Framework of Reference (CEFR) C levels:
Proficient user) is essential.
Annwyl Ymgeisydd
Mae Ysgol Bro Caereinion yn awyddus i benodi athro / athrawes ymroddedig i ymuno â'r ysgol pob oed ar ddechrau pennod newydd gyffrous wrth iddi ddod yn ysgol Gymraeg flaenllaw ym Maldwyn, yng
ngogledd Powys. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm brwdfrydig o staff sydd yn ymroi'n llwyr i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad disgyblion o fewn ysgol arbennig sydd
ag ethos deuluol gref. Lleolir yr ysgol hon yn nhref marchnad Llanfair Caereinion, mewn ardal wledig hyfryd yng Nghanolbarth Cymru, wyth milltir o'r Trallwng ac o fewn awr o daith o Aberystwyth.
Mae Estyn, yn yr adroddiad craidd, Ebrill 2024, yn datgan bod Ysgol Bro Caereinion 'yn gymuned ysgol groesawgar lle caiff disgyblion eu parchu. Mae bron pob un o'r disgyblion yn ymddwyn yn dda iawn
mewn gwersi ac o gwmpas adeiladau'r ysgol. Maent yn ymgysylltu'n gadarnhaol â'u dysgu'. I ddarllen yr adroddiad yn llawn cliciwch ar y ddolen hon: Adroddiad arolygiad Ysgol Bro Caereinion 2024
Rydym yn awyddus i benodi unigolyn ymroddedig sydd:
• yn athro medrus ac effeithiol, gyda phrofiad cadarn o addysgu
• yn meddu ar ddealltwriaeth glir o'r Cwricwlwm i Gymru
• yn gosod disgwyliadau uchel o ran dysgu ac ymddygiad
• yn gallu cydweithio'n effeithiol fel rhan o dîm
• yn modelu'r iaith Gymraeg yn effeithiol a chywir
Mae Ysgol Bro Caereinion yn ysgol ddwyieithog ac mae'r gallu i siarad, darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg yn hynod hanfodol ar gyfer y swydd hon (Lefel C - Defnyddiwr hyfedr ar y Fframwaith Cyfeirio
Cyffredin Ewrop ar gyfer Ieithoedd (CEFR)).
Gweler y disgrifiad swydd a'r fanyleb person isod.
Peidiwch ag oedi i gysylltu gyda'r ysgol os dymunwch sgwrs gyda'r pennaeth neu i ddod i ymweld â'r ysgol. Dymunwn bob hwyl i chi gyda'ch cais.