THE DETAILS:
  • Location: Swansea,
  • Salary Type: Not Supplied
  • Language: English
  • Closing Date: 15 January, 2026 12:00 AM
Apply Now (CY)

Apply Now (EN)

You will be taken to an external page to complete your application.

YGG Pontybrenin: Nursery & Reception Leader

Swansea Council
Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin
Heol Casllwchwr
Gorseinon
Abertawe
SA4 6AU
Ffôn / Tel: 01792 894210
E-bost / E-Mail: yggpontybrenin@pontybrenin.swansea.sch.uk
Gwefan / Website: www.yggpontybrenin.com

Mae Pennaeth a Chorff Llywodraethu yr ysgol lwyddiannus, hapus hon yn awyddus i benodi Arweinydd Meithrin & Derbyn brwdfrydig ac ymroddgar i gynorthwyo'r Pennaeth wrth arwain yr ysgol trwy gyfnod cyffrous ym myd addysg Cymru.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
  • ymarferydd rhagorol a phrofiadol sy'n ymrwymedig i godi safonau a chyrhaeddiad disgyblion;
  • yn frwd dros addysg Gymraeg ac yn meddu ar yr ymrwymiad a'r ysgogiad i arwain datblygiadau'r cwricwlwm;
  • medru dangos gweledigaeth ac ymrwymiad clir i welliant ysgol mewn partneriaeth â'r pennaeth, staff, disgyblion, llywodraethwyr a rhieni;
  • unigolyn sy'n meddu ar sgiliau arweinyddiaeth arbennig, sgiliau rhyngbersonol gwych a'r ysgogiad i ddatblygu'n broffesiynol.

Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin yn ysgol benodedig Gymraeg ac yn gwasanaethu ardal eang sy'n ymestyn o Benrhyn Gwyr hyd gyrion Gorllewin Dinas Abertawe. Mae 563 o ddisgyblion ag ystod oedran o 3-11 oed ar y gofrestr.

YGG Pontybrenin - Nursery & Reception Leader - Job Description ( PDF, 242 KB )

Application form - primary, secondary, special teachers ( Word doc, 117 KB )

Dyddiad cau: 12/12/25 (canol dydd)
Tynnu rhestr fer: 12/12/25
Arsylwadau gwersi: i'w trefnu
Cyfweliadau: 18/12/25
Gradd: Prif Raddfa Cyflog neu Uwch Raddfa ynghyd â CAD2

Gofynnir i ymgeiswyr danfon llythyr cais a ffurflen gais wedi'i chwblhau at y Pennaeth, Mr Ceri Scourfield: ScourfieldC4@hwbcymru.net Am sgwrs anffurfiol ynglŷn â'r swydd neu i drefnu ymweliad â'r ysgol, gofynnir i ddarpar ymgeiswyr gysylltu â'r pennaeth ar 01792 894210.

Rydym yn ymrwymo i ddiogelu lles plant ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff rannu'r ymroddiad hwn. Mae angen gwiriad manylach gan y GDG ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.

O dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, bydd angen i bob Gweithiwr Cymorth Dysgu Ysgolion gael ei gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg (EWC).

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol