THE DETAILS:
Apply Now (CY)
- Location: Swansea,
- Salary Type: Not Supplied
- Language: English
Apply Now (EN)
You will be taken to an external page to complete your application.
Ysgol Gynradd Gymraeg Bryn y Môr
Heol Sant Alban
Brynmill
Abertawe
SA2 0BP
Tel: 01792 466354
Gwefan: https://www.yggbrynymor.co.uk/
Pennaeth: Mrs E Wakeham
Mae'r Pennaeth a'r Corff Llywodraethol yn awyddus i benodi Cynorthwyydd Addysgu brwdfrydig ac ymroddgar i ymuno â thîm yr ysgol hapus hon.
Gwahoddir ceisiadau ar gyfer y swydd ganlynol, gyda dechrau ym mis Ionawr 2026.
Prif ddiben y swydd
Bydd y rôl yn cynnwys cefnogi addysgu a lles disgyblion, gan gyfrannu at amgylchedd dysgu cynhwysol ac ysbrydoledig.
Cyflog: I'w drafod ac yn ddibynnol ar brofiad.
Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus:
Gofynion:
Rhaid i ymgeiswyr fod yn gymwys i NVQ Lefel 3 neu gyfwerth.
Gweler y disgrifiad swydd a'r manyleb person am ragor o wybodaeth.
Danfonwch eich llythyron cais i'r Ysgol naill ai drwy'r post neu drwy e bost yr Ysgol [email protected]
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni cais yw 21/01/26 am 12pm
YGG Bryn y Môr - Cynorthwy-ydd Addysgu - Swydd ddisgrifiad ( PDF, 156 KB )
Application form - school-based support staff ( Word doc, 134 KB )
Diogelu
Mae'r Awdurdod yn unol â'r Polisi Diogelu Corfforaethol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion ac yn disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Mae'r Awdurdod yn disgwyl i'r holl staff ymgymryd ag hyfforddiant diogelu gorfodol a bod yn ymwybodol o'r wybodaeth ddiweddaraf am warchod plant ac oedolion.
Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG): Mae'r swydd hon yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y swydd gael y lefel datgelu GDG fel y nodir isod: Cais am Ddatgeliad GDG Manwl
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

- Bod yn frwd dros addysg Gymraeg ac yn rhugl yn y Gymraeg (llafar ac ysgrifenedig).
- Bod yn unigolyn brwdfrydig, llawn cymhelliant ac angerddol am gefnogi addysgu a lles disgyblion.
- Ymrwymo i addysg gynhwysol i bob disgybl.
- Gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm ymroddgar.
- Meddu ar sgiliau llythrennedd a rhifedd o safon uchel i herio ac ysgogi disgyblion.
- Cyfrannu at greu amgylchedd dysgu symbylol a chyffrous.
- Bod yn barod i ymgymryd â dyletswyddau cinio.