THE DETAILS:
  • Location: Abercynon, Rhondda Cynon Taf, CF45 4TH
  • Subject: Teacher
  • Hours: Full Time
  • Contract: Permanent
  • Salary Type: Annually
  • Salary Range: £27,491 - £42,333
  • Language: Welsh
  • Closing Date: 01 July, 2022 12:00 PM

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes - Ysgol Gynradd Gymraeg Abercynon

Athro/Athrawes - Ysgol Gynradd Gymraeg Abercynon

Ysgol Gynradd Gymraeg Abercynon
Ysgol Gynradd Gymraeg Abercynon
Greenfield Terrace, Abercynon, Mountain Ash CF45 4TH
01443 740239

Nifer y disgyblion wedi'u cofrestru: 280

Athro/Athrawes Parhaol

Graddfa Cyflog Athrawon

Amser Dechrau'r Swydd: Medi 2022

Mae'r Corff Llywodraethu yn dymuno penodi Athro/Athrawes i weithio yn Ysgol Gynradd Gymraeg Abercynon ac ymuno â'n carfan bresennol.

Mae’r llywodraethwyr, y staff a’r disgyblion yn awyddus i benodi athro dosbarth a fydd yn ymarferwr gwych yn yr ystafell ddosbarth, yn gweithio’n frwdfrydig o fewn tîm ac yn gosod y plentyn wrth galon popeth sy’n bwysig ym mywyd yr ysgol. Rydym yn chwilio am berson sy'n gallu cefnogi'r weledigaeth hon ac adeiladu ar y sylfeini cryfion sydd eisoes yn eu lle.

Mae Ysgol Abercynon yn ysgol cyfrwng Cymraeg ar waelod Cwm Cynon. Mae gennym 280 o blant ar y gofrestr (30 llawn amser yn y Feithrin). Mae Ysgol Abercynon yn ysgol hapus, gynhwysol a chymunedol.

Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch am y swydd, cysylltwch â Ioan Thomas, Dirprwy Bennaeth, ar 01443 740239 rhowch rif ffôn.

Mae modd cael ffurflenni cais a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a'r fanyleb person ar gyfer y rôl oddi neu drwy'r wefan Recriwtio Ysgolion yn https://rhondda-cynon-taf.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-3/brand-4/xf-c76d524b2100/candidate. Nodwch - i gyflwyno cais am y swydd yma, mae angen i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein sydd ar wefan Cyngor RhCT. O beidio â llenwi'r cais ar-lein byddwn ni'n cyfrif hynny fel nad ydych chi wedi gwneud cais am y swydd.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd (12pm) ar 1 Gorffennaf 2022.

MAE DIOGELU PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD YR YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD HEFYD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.