THE DETAILS:
  • Location: Cardiff, Cardiff, CF10 4UW
  • Subject: Headteacher
  • Hours: Full Time
  • Contract: Permanent
  • Salary Type: Annually
  • Salary Range: £65,266 - £74,847
  • Language: Welsh

This job application date has now expired.

Ysgol Gynradd Groes-wen

Pennaeth
Ysgol Grŵp 3
Cyf Post: ED6002
Ystod Cyflog L18-L24, £65,266 i £74,847
Llawn Amser a Pharhaol
I ddechrau: 1 Ionawr 2023

A ydych chi'n arweinydd ysbrydoledig ac arloesol?
A ydych am arwain ysgol newydd a'i datblygu yn fodel arloesol o addysg ddwyieithog yng Nghymru?
A ydych am gefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?
Bydd ein hysgol ddwy ffrwd newydd yn gwasanaethu'r datblygiadau tai newydd yng Ngogledd-orllewin Caerdydd, ar safle Plasdŵr. Mae'r Corff Llywodraethu dros dro yn awyddus i benodi Pennaeth ar gyfer 1 Ionawr 2023, a fydd yn cydweithio â llywodraethwyr, yr awdurdod lleol a phartneriaid i sefydlu'r ysgol newydd yn barod i groesawu ei dysgwyr cyntaf pan fydd yn agor ar 1 Medi 2023.

Bydd yr ysgol yn cynnwys dwy ffrwd iaith wedi eu trefnu fel un dosbarth mynediad Cymraeg (categori 3) gyda 30 o leoedd fesul grŵp blwyddyn ac un dosbarth mynediad Saesneg yn bennaf, gyda defnydd sylweddol o’r Gymraeg (categori 2) gyda 30 o leoedd fesul grŵp blwyddyn gan ddarparu 420 lle i ddisgyblion cynradd yn yr ysgol. Bydd y feithrinfa’n cynnig 48 o leoedd meithrin rhan-amser ar gyfer y ffrwd Gymraeg a 48 o leoedd meithrin rhan-amser ar gyfer y ffrwd Saesneg, gyda defnydd sylweddol o’r Gymraeg. I gael rhagor o wybodaeth am y categoreiddio hwn, cyfeiriwch at Ganllawiau Llywodraeth Cymru sydd i'w gweld yma. WG43283 (llyw.cymru)

Rydym yn chwilio am rywun sydd â’r canlynol:
• Ymrwymiad i sicrhau addysgu a dysgu, cyrhaeddiad disgyblion, Cymraeg, ymddygiad a lles o’r safon orau bosib ar gyfer pawb.
• Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu a fydd yn gwella safon addysg a rheoli o fewn yr ysgol.
• Hanes profedig o weithredu arfer da tra hefyd yn meddu ar y gallu i gyflwyno syniadau newydd arloesol.
I gael trafodaeth anffurfiol cysylltwch â Daniel Tiplady - dtiplady@cardiffmet.ac.uk.

O dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, bydd angen i bob Gweithiwr Cymorth Dysgu Ysgolion gael ei gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg (EWC).

Mae’r swydd hon yn destun Gwiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Mae’r swydd wag hon yn addas i’w rhannu.

Lawrlwythwch y ffurflen gais drwy ddewis y botwm "Gwneud Cais Nawr".

Oherwydd ein trefniadau gweithio interim presennol, ni allwn ddarparu pecynnau recriwtio drwy'r swydd.
Dylid dychwelyd ffurflenni cais wedi’u cwblhau i jacqueline.simmons@cardiff.gov.uk erbyn y dyddiad cau.

Dyddiad cau: 29 Mehefin 2022, hanner dydd

Cyfweliadau: 14 a 15 Gorffennaf 2022

Hysbysir ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer erbyn yr wythnos yn dechrau 4 Gorffennaf 2022.

Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn flaenoriaethau allweddol i’r Cyngor. Ein nod yw rhoi cymorth i blant ac oedolion sy’n agored i niwed gan sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Mae ein gwasanaethau a’n hysgolion wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch pob plentyn ac oedolyn sy’n agored i niwed, a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Maent yn cydnabod bod gan blant ac oedolion sy’n agored i niwed yr hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn yn ethos cyffredinol y Cyngor a’r holl ysgolion.

Fel cyflogwr cyfle cyfartal, rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth. Felly, er nad yw’n ofyniad ar gyfer gwneud cais, rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan unigolion nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol, gan gynnwys:
• y rhai sy’n 25 oed ac iau;
• y rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant;
• y rhai o’n cymunedau lleol, yn benodol unigolion anabl, gofalwyr a’r rhai o gymunedau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a LGBT+ Caerdydd;
• y rhai sy’n gallu cyfathrebu’n rhugl yn Gymraeg.

https://www.eteach.com/job/pennaeth-1247838