THE DETAILS:.
Apply Now (CY)
- Location: Rhondda Cynon Taf,
- Hours: Full time
- Contract: Permanent
- Salary Type: Not Supplied
- Salary: Graddfa Cyflog Athrawon
- Language: Welsh
- Closing Date: 01 March, 2026 12:00 AM
Apply Now (EN)
You will be taken to an external page to complete your application.
Salary: Graddfa Cyflog Athrawon
Athro/Athrawes dros dro (Cyfnod Mamolaeth)YSGOL GYNRADD GYMRAEG BRONLLWYN
Colwyn Road, Gelli, Rhondda, CF41 7NW
Tel. 01443 435294
E-Mail admin.yggbronllwyn@rctcbc.gov.uk
Gorau cam cam cyntaf
Athro/Athrawes dros dro (Cyfnod Mamolaeth)
Oriau: 32 ½ Oriau'r Wythnos
Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon
Dyddiad dechrau: Mehefin, 2026
Lleolir Ysgol Gynradd Gymraeg Bronllwyn yn y Gelli yn y Rhondda.
Mae Pennaeth a Chorff Llywodraethol yr ysgol cyfrwng Cymraeg llwyddiannus hon yn gwahodd ceisiadau wrth athrawon profiadol, rhagorol, brwdfrydig ac ymroddgar am swydd addysgu i ddechrau tua mis Mehefin 2026 sy`n gallu cymell a dysgu dosbarthiadau ar draws y cyfnod cynradd yn llwyddiannus. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm o staff ymroddgar, talentog, proffesiynol a hapus ac yn gosod y plentyn wrth galon popeth sy`n bwysig ym mywyd yr ysgol.
Chwiliwn am unigolyn ymroddgar, hyblyg a threfnus iawn sy`n gosod disgwyliadau eithriadol o uchel ar gyfer ei hun ac yn mynnu’r safonau uchaf posibl wrth bob disgybl ac eraill. Mae`r gallu i gyfathrebu`n effeithiol a chywir ar lafar ac yn ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg a`r Saesneg yn hanfodol. Byddem yn disgwyl i`r ymgeisydd llwyddiannus gael profiad o ddefnyddio TGCh fel offeryn addysgu a dysgu yn gymwys ar draws y cwricwlwm. Mae gennym dîm ymroddedig o staff a llywodraethwyr, sy`n ceisio cymell a chefnogi disgyblion i`w galluogi i ddatblygu a chyflawni eu llawn botensial. Felly, rydym eisiau penodi athro, sydd â sgiliau ymarferydd dosbarth rhagorol, gyda disgwyliadau uchel o ran cyflawniad ac ymddygiad.
Cysylltwch â`r Pennaeth, Mrs N Gould ar 01443 435294 os hoffech fwy o fanylion.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau : Dydd Gwener, Chwefror 13eg 2026 am 12.00canol nos.
Rhestr Fer: Dydd Mercher, Chwefror 25ain.
Arsylwad gwers : Dydd Mercher, Mawrth 4ydd.
Cyfweliadau: Dydd Gwener, Mawrth 13eg.
MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.
Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.