THE DETAILS:.
  • Location: Newtown,
  • Subject: Not supplied
  • Hours: Full time
  • Contract: Not supplied
  • Start Date: Not supplied
  • End Date: Not supplied
  • Salary Type: Not Supplied
  • Salary: Graddfa Cyflog Athrawon
  • Language: Any
  • Closing Date: 12 April, 2026 12:00 AM
Apply Now (CY)

Apply Now (EN)

You will be taken to an external page to complete your application.

Class Teacher (Ysgol Dafydd Llwyd)

Powys County Council

Salary: Graddfa Cyflog Athrawon

Class Teacher (Ysgol Dafydd Llwyd)
Job description

Welsh Language Skills are essential for this position

Ysgol Dafydd Llwyd
Athro Dosbarth
SWYDD-DDISGRIFIAD
Teitl y swydd: Athro Dosbarth (Cyfnod Mamolaeth)
Lleoliad: Ysgol Dafydd Llwyd, Y Drenewydd
Graddfa: Graddfa Cyflog Athrawon
Atebol i'r: Pennaeth a'r Corff Llywodraethol
Ein Gweledigaeth
Law yn Llaw, Anelwn yn Uchel
Mae Ysgol Dafydd Llwyd yn hyrwyddo'r weledigaeth y dylai plant a staff 'Anelu'n Uchel' ym mhob peth y maent yn eu gwneud. Wrth wneud hyn, bydd pob unigolyn yn cyrraedd ei lawn botensial. Rydym fel ysgol
am adeiladu ar sylfaen gadarn y gorffennol, i ddatblygu'r presennol ac i anelu at ddyfodol llwyddiannus. Rydym yn creu a darparu cwricwlwm creadigol, cyflawn a deinamig sydd yn ysbrydoli, tanio a chyffroi pob
dysgwr. Yn ganolog i deulu'r ysgol bydd meithrin hunaniaeth a balchder tuag at ein hiaith a'n hetifeddiaeth a hynny mewn modd angerddol.
Mae Corff Llywodraethol yr ysgol yn awyddus i benodi ymarferydd rhagorol i ymuno â thîm cefnogol, brwdfrydig a chydwybodol yr ysgol, fel athrawes ar gyfnod mamolaeth o fis Mehefin 2026 tan Mehefin 2027.
Mae croeso cynnes i ddarpar ymgeiswyr i ymweld â'r ysgol neu i gael sgwrs anffurfiol gyda mi fel pennaeth.
Cysylltwch drwy anfon ebost at pennaeth@dafyddllwyd.powys.sch.uk neu ffoniwch yr ysgol ar 01686 622162.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12fed o Ebrill 2026
Dyddiad llunio rhestr fer: 13eg o Ebrill 2026
Dyddiad cyfweliad: 2ofed o Ebrill 2026
Diolch am ddangos diddordeb yn y swydd.
Yn gywir,
Mr Darryn Green