THE DETAILS:.
Apply Now (CY)
- Location: Newtown,
- Subject: Not supplied
- Hours: Part time
- Contract: Temporary
- Start Date: Not supplied
- End Date: Not supplied
- Salary Type: Not Supplied
- Salary: Graddfa Cyflog Athrawon
- Language: Any
- Closing Date: 22 March, 2026 12:00 AM
Apply Now (EN)
You will be taken to an external page to complete your application.
Salary: Graddfa Cyflog Athrawon
Class Teacher (Ysgol Dafydd Llwyd)Job description
Welsh Language Skills are essential for this position
Ysgol Dafydd Llwyd
Athro Dosbarth
SWYDD-DDISGRIFIAD
Teitl y swydd: Athro Dosbarth (3 diwrnod yr wythnos)
Lleoliad: Ysgol Dafydd Llwyd, Y Drenewydd
Graddfa: Graddfa Cyflog Athrawon
Atebol i'r: Pennaeth a'r Corff Llywodraethol
Ein Gweledigaeth
Law yn Llaw, Anelwn yn Uchel
Mae Ysgol Dafydd Llwyd yn hyrwyddo'r weledigaeth y dylai plant a staff 'Anelu'n Uchel' ym mhob peth y
maent yn eu gwneud. Wrth wneud hyn, bydd pob unigolyn yn cyrraedd ei lawn botensial. Rydym fel ysgol
am adeiladu ar sylfaen gadarn y gorffennol, i ddatblygu'r presennol ac i anelu at ddyfodol llwyddiannus.
Rydym yn creu a darparu cwricwlwm creadigol, cyflawn a deinamig sydd yn ysbrydoli, tanio a chyffroi pob
dysgwr. Yn ganolog i deulu'r ysgol bydd meithrin hunaniaeth a balchder tuag at ein hiaith a'n hetifeddiaeth
a hynny mewn modd angerddol.
Mae Corff Llywodraethol yr ysgol yn awyddus i benodi ymarferydd rhagorol i ymuno â thîm cefnogol,
brwdfrydig a chydwybodol yr ysgol, fel athrawes am dridiau'r wythnos tan diwedd y flwyddyn academaidd.
Mae croeso cynnes i ddarpar ymgeiswyr i ymweld â'r ysgol neu i gael sgwrs anffurfiol gyda mi fel pennaeth.
Cysylltwch drwy anfon ebost at pennaeth@dafyddllwyd.powys.sch.uk neu ffoniwch yr ysgol ar 01686
622162.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 22ain o Fawrth 2026
Dyddiad llunio rhestr fer: 23ain o Fawrth 2026
Dyddiad cyfweliad: 25ain o Fawrth 2026
Diolch am ddangos diddordeb yn y swydd.
Yn gywir,
Mr Darryn Green