THE DETAILS:.
  • Location: Not supplied
  • Subject: Not supplied
  • Hours: Full time
  • Contract: Not supplied
  • Start Date: Not supplied
  • End Date: Not supplied
  • Salary Type: Not Supplied
  • Salary: Graddfa Gyflog o fewn: L20 £84,100 - L24 £92,754
  • Language: Any
  • Closing Date: 13 April, 2026 12:00 AM
Apply Now (CY)

Apply Now (EN)

You will be taken to an external page to complete your application.

Dirprwy Bennaeth - Ysgol Bro Preseli

Pembrokeshire County Council

Salary: Graddfa Gyflog o fewn: L20 £84,100 - L24 £92,754

Swydd: Dirprwy Bennaeth - Ysgol Bro Preseli

Dyddiad Cychwyn: 1af o Fedi 2026, Graddfa Cyflog Arweinyddiaeth L20-L24

Cytundeb Parhaol, Llawn Amser

Dyddiad Cau: 13eg Ebrill 2026

Ysgol Bro Preseli, Crymych

Mae Ysgol Bro Preseli yn falch o gyhoeddi cyfle cyffrous i ymuno â'n tîm arweinyddiaeth uchelgeisiol ac egnïol fel Dirprwy Bennaeth. Daw'r swydd hon ar adeg arbennig o bwysig yn hanes yr ysgol ar ôl i'n hadroddiad Estyn diweddar ddathlu ein gwaith fel cymuned ddysgu eithriadol o gryf. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno ag ysgol bob oed lwyddiannus sy'n cael ei chydnabod yn genedlaethol am ei gweledigaeth, ei harweinyddiaeth strategol a'i chymuned gadarnhaol.

Ysgol Bro Preseli - Yr Ysgol a'i Chymuned

Mae Ysgol Bro Preseli yn ysgol bob oed Gymraeg lewyrchus sy'n gwasanaethu cymuned eang Crymych a'r dalgylch. Mae'n ysgol sydd wedi meithrin enw da dros flynyddoedd lawer fel canolfan addysg flaengar yng ngogledd Sir Benfro, ac erbyn heddiw mae ganddi dros 990 o ddisgyblion, gan gynnwys chweched dosbarth cryf sy'n denu myfyrwyr o ardal eang y Preseli.

Ar hyd ei hanes mae'r ysgol wedi adlewyrchu cryfder a gwydnwch ei chymuned, gan ddatblygu ethos sy'n seiliedig ar werthoedd Cymreig, cydweithio a balchder lleol. Yn 2022 daeth Ysgol Bro Preseli yn ffurfiol yn ysgol bob oed, gan uno darpariaeth gynradd ac uwchradd ac adeiladu ar sylfeini cadarn a arweiniodd at dîm arweinyddiaeth cydlynol ac uchelgeisiol. Mae Estyn yn pwysleisio mai "cymuned hapus, falch a chyfeillgar" yw'r ysgol, gyda gweledigaeth glir sy'n treiddio trwy bob agwedd o'i gwaith.

Yr Ardal - Y Preselau a Chymru Wledig

Saif yr ysgol yng nghalon y Preselau, ardal o harddwch naturiol eithriadol sy'n adnabyddus am ei threftadaeth ddiwylliannol a'i chymunedau Cymraeg cryf. Mae Crymych a'i bentrefi cyfagos yn gartref i bobl fywiog sy'n cynnal traddodiadau lleol, gan gynnwys chwaraeon, y celfyddydau a bywyd cymunedol cyfoethog. Mae'r Parc Cenedlaethol cyfagos ac ucheldiroedd y Preseli yn darparu cefndir naturiol arbennig i fywyd ysgol a'r cwricwlwm, gan gyfrannu at y teimlad o falchder lleol y mae Estyn wedi'i amlygu.

Dyfyniadau o Adroddiad Estyn (Rhagfyr 2025)

Mae'r adroddiad diweddar yn canmol Ysgol Bro Preseli fel:
  • "Cymuned hapus, falch a chyfeillgar lle mae staff a disgyblion yn mwynhau dysgu yng nghwmni ei gilydd"
  • "Gweledigaeth uchelgeisiol... i'w gweld a'i theimlo ym mhob agwedd o waith yr ysgol"
  • "Athrawon yn darparu gweithgareddau ymarferol buddiol sy'n meithrin medrau llafar, darllen ac ysgrifennu"
  • "Cwricwlwm cydlynol... wedi'i seilio'n gadarn ar y cysyniad o gynefin"
  • "Agweddau dysgu hynod gadarnhaol gan ddisgyblion ar draws pob cyfnod"
  • "Cydweithio effeithiol ac ymdeimlad cryf o rannu amcanion arweinwyr a staff"
  • "Arweinwyr ac athrawon yn darparu cwricwlwm sy'n pontio'r sector cynradd ac uwchradd yn effeithiol"
Mae'r dyfyniadau hyn yn adlewyrchu'r uchelgais, yr ansawdd a'r ymrwymiad sydd wrth wraidd pob agwedd o'n gwaith - a bydd y Dirprwy Bennaeth newydd yn chwarae rhan ganolog wrth barhau i adeiladu ar y llwyddiant hwn.

Cyfle Arweinyddiaeth mewn Ysgol Bob Oed

Er bod y cyfrifoldebau'n bennaf yn ymwneud â'r sector uwchradd, bydd y Dirprwy Bennaeth newydd yn ymgymryd â chyfrifoldebau ysgol gyfan, gan gyfrannu at gyfeiriad strategol ysgol bob oed sydd â gweledigaeth glir ac uchelgeisiol. Bydd y rôl yn golygu cydweithio'n agos gyda'r Pennaeth a'r Dirprwy Bennaeth arall i ddatblygu ac ehangu gweledigaeth 'Gwreiddiau a Gorwelion' yr ysgol.

Prif Gyfrifoldebau'r Swydd

Arweinyddiaeth Weithredol
  • Amserlen, Cwricwlwm a Staffio Uwchradd
  • Cydlynydd Cyrsiau BTEC Rheolwr Ansawdd (QN)
  • Cwricwlwm CA4 / CA5
  • Cyrsiau mewn Partneriaeth
  • Cydlynydd Data, Tracio a Thargedau
  • Cydlynydd Asesu ac Adrodd
  • Cymedroli a Safoni
Gorolwg Strategol
  • Arwain ar Ddata, Tracio a Thargedau
  • Arwain Cyfarfodydd Arweinwyr Pwnc Penodol
  • Cwricwlwm Galwedigaethol
  • Arholiadau Allanol
Arwain Pobl
  • Cyfrifoldeb fel Arweinydd Llinell ar adrannau penodol.
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd:
  • Yn arweinydd ysbrydoledig, galluog ac egnïol.
  • Yn meddu ar sgiliau trefnu rhagorol ac ymrwymiad i gynllunio strategol.
  • Yn darparu arweinyddiaeth gadarn sy'n meithrin diwylliant o uchelgais ac ansawdd.
  • Yn rhannu gwerthoedd craidd yr ysgol: Cymreictod, Cymuned, Caredigrwydd a Chyfrifoldeb.
Beth rydym yn ei gynnig?
  • Cyfle i weithio mewn ysgol a gydnabyddir yn genedlaethol am ei harweinyddiaeth strategol, ei chymuned gadarnhaol a'i chwricwlwm rhagorol.
  • Amgylchedd gweithio cynnes, cydweithredol a chreadigol.
  • Cyfleoedd datblygu proffesiynol parhaus o'r safon uchaf.
  • Pecyn Adleoli ('Relocation Package') deniadol o £7000.00 i gefnogi'r ymgeisydd llwyddiannus wrth symud i'r ardal.
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.


Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Nodyn Canllaw: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial a Chywirdeb Gwybodaeth:
  • Rydym yn deall y gall ymgeiswyr ddewis defnyddio offer fel Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol i gefnogi paratoi eu cais. Er bod defnyddio offer o'r fath yn cael ei ganiatáu, mae'n parhau i fod yn gyfrifoldeb llawn yr ymgeisydd i sicrhau bod yr holl wybodaeth a gyflwynir yn ffeithiol gywir, yn wir, ac yn gynrychioliadol o'u sgiliau, profiadau a chymwysterau eu hunain.
  • Gall darparu gwybodaeth sy'n ffug, yn gamarweiniol, neu'n orliwiedig, p'un a gafodd ei chynhyrchu gan Deallusrwydd Artiffisial ai peidio, arwain at anghymhwyso o'r broses recriwtio neu ddiswyddo os caiff ei ddarganfod ar ôl penodi.
  • Drwy gyflwyno'r cais hwn, rydych yn cadarnhau bod yr holl gynnwys a ddarperir yn gywir ac wedi'i gyflwyno'n ddidwyll.
Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.


Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol


  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2025.
Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.