THE DETAILS:.
Apply Now (CY)
- Location: Llanfair Caereinion,
- Subject: Not supplied
- Hours: Full time
- Contract: Permanent
- Start Date: Not supplied
- End Date: Not supplied
- Salary Type: Not Supplied
- Salary: Blank
- Language: Any
- Closing Date: 26 April, 2026 12:00 AM
Apply Now (EN)
You will be taken to an external page to complete your application.
Salary: Blank
Athro / Athrawes Mathemateg (Ysgol Bro Caereinion)Job description
Welsh language skills are essential
Athro / Athrawes Mathemateg a Rhifedd
gyda opsiwn o CAD cydlynydd rhifedd (CAD2A)
Llawn amser a pharhaol
Ar gyfer ysgol pob oed
YSGOL BRO CAEREINION
Ei hangen ar gyfer 1 af o Fedi 2026
Teacher of Mathematics and Numeracy at Ysgol Bro Caereinion and the option of Numeracy Co-ordinator (TLR 2A)
This is a role where the ability to read, write and speak in Welsh (Common European Framework of Reference (CEFR) C levels: Proficient user) is essential.
Link WG Language competency framework for education practitioners
CYNNWYS
YSGOL BRO CAEREINION
Athro / Athrawes Mathemateg a Rhifedd
Prif raddfa cyflog
(Cyfateb i £33,731 - £51,942 amser llawn)
A'r opsiwn (pe dymunir) ar gyfer swydd Cydlynydd Rhifedd
CAD2A
(Cyfateb i £3,626 y flwyddyn)
Mawrth 2026
Annwyl Ymgeisydd
Mae Ysgol Bro Caereinion yn awyddus i benodi athro / athrawes mathemateg a rhifedd ymroddedig i ymuno â'r ysgol pob oed ar ddechrau pennod newydd gyffrous wrth iddi ddod yn ysgol Gymraeg flaenllaw ym Maldwyn, yng ngogledd Powys. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm brwdfrydig o staff sydd yn ymroi'n llwyr i gynnal y safonau uchaf o ddysgu ac addysgu a chyflawniad disgyblion o fewn ysgol arbennig sydd ag ethos deuluol gref. Lleolir yr ysgol hon yn nhref marchnad Llanfair Caereinion, mewn ardal wledig hyfryd yng Nghanolbarth Cymru, wyth milltir o'r Trallwng ac o fewn awr o daith o Aberystwyth.
Mae Estyn, yn yr adroddiad craidd, Ebrill 2024, yn datgan bod Ysgol Bro Caereinion 'yn gymuned ysgol groesawgar lle caiff disgyblion eu parchu. Mae bron pob un o'r disgyblion yn ymddwyn yn dda iawn mewn gwersi ac o gwmpas adeiladau'r ysgol. Maent yn ymgysylltu'n gadarnhaol â'u dysgu'.
Rydym yn awyddus i benodi unigolyn ymroddedig sydd yn:
- meddu ar sgiliau addysgu effeithiol ac ysgogol
- athro ysbrydoledig sydd yn gallu dod â'r sgiliau mathemategol yn fyw i'r disgyblion trwy brofiadau dysgu cyfoethog, ystyrlon ac ymarferol
- datblygu sgiliau meddwl mathemategol disgyblion
- cyfrannu'n gadarnhaol at wireddu pedwar diben y Cwricwlwm i Gymru
- gallu gweithio mewn tîm yn effeithiol
- ymrwymedig i ddatblygu'r ysgol yn gymuned ddysgu lwyddiannus er budd pob disgybl, gyda'r pwyslais ar ragoriaeth a chynhwysiant
- bod yn ymrwymedig i sefydlu ethos cadarnhaol wedi ei wreiddio yn y Gymraeg a'r diwylliant Cymraeg
- sgiliau cynllunio strategol i ddatblygu profiadau a medrau rhifedd disgyblion ar draws y cwricwlwm ac ystod oedran
- sgiliau arweinyddiaeth cadarn i fonitro darpariaeth a chynnydd disgyblion ar draws yr ysgol
- meithrin cymhwysedd rhifedd disgyblion ar draws y cwricwlwm ac ystod oedran
- cefnogi MDaPh eraill i gynllunio profiadau rhifedd pwrpasol
- mapio profiadau medrau rhifedd disgyblion ar draws yr ysgol
Mae'r gallu i siarad, darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg yn hynod hanfodol ar gyfer y swydd hon (Lefel C - Defnyddiwr hyfedr ar y Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewrop ar gyfer Ieithoedd (CEFR)).
Mae cyfle hefyd, pe dymunir (plîs nodwch yn eich llythyr cais), i hefyd cymryd y cyfrifoldeb o gydlynu'r medrau rhifedd ar draws y cwricwlwm ac ystod oedran (o dysgu sylfaen hyd at flwyddyn 11).
Gweler y disgrifiad swydd a'r fanyleb person isod. Peidiwch ag oedi i gysylltu gyda'r ysgol os dymunwch sgwrs gyda'r pennaeth neu i ddod i ymweld â'r ysgol. Dymunwn bob hwyl i chi gyda'ch cais.
Yn gywir
Myfanwy Alexander Anwen Orrells
Cadeirydd y Llywodraethwyr Pennaeth
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 ac yn destun Datgeliad DBS