THE DETAILS:.
  • Location: Meifod,
  • Subject: Not supplied
  • Hours: Full time
  • Contract: Permanent
  • Start Date: Not supplied
  • End Date: Not supplied
  • Salary Type: Not Supplied
  • Salary: Blank
  • Language: Any
  • Closing Date: 13 April, 2026 12:00 AM
Apply Now (CY)

Apply Now (EN)

You will be taken to an external page to complete your application.

Athrawes Cynradd neu Dysgu Sylfaen (Ysgol Pontrobert)

Powys County Council

Salary: Blank

Athrawes Cynradd neu Dysgu Sylfaen (Ysgol Pontrobert)
Job description

Mae sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol

Welsh language skills are essential

Dymunai Llywodraethwyr Ysgol Pontrobert benodi athro/athrawes Gynradd ar gyfer dosbarth 'Y Bont' (Derbyn, 1 a 2) neu ddosbarth Efyrnwy (blynyddoedd 5 a 6) o'r 1af o Fedi 2026. Swydd barhaol yw hon. Darparir addysg Gymraeg ar gyfer plant 4-11 oed. Lleolir yr ysgol ym Mhontrobert, Powys ac mae'n ganolbwynt i'r gymuned. Ar hyn o bryd mae tri dosbarth. Hoffem benodi athro/athrawes ymroddedig a chydwybodol i ymuno â'r staff yn ein hysgol gynnes a chyfeillgar.

Mae'r ysgol yn ymfalchïo yn ei safonau academaidd uchel, ei dulliau addysgu a dysgu arloesol, y cyfleoedd allgyrsiol a gynigir a'r berthynas arbennig sydd ganddynt gyda dysgwyr a chymuned ehangach yr ysgol. Mae gan bob athro eu hystafell addysgu eu hunain gydag adnoddau sy'n bodloni gofynion addysgu a dysgu'r unfed ganrif ar hugain.

Mae'n hanfodol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn gallu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg, yn llafar ac yn ysgrifenedig. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus ddangos ymrwymiad llwyr i weithio mewn ysgol Gymreig ei hethos gan hyrwyddo a chefnogi ein diwylliant a meithrin balchder y dysgwyr yn eu treftadaeth.

Mae hwn yn gyfle gwych i athro/athrawes gweithgar, brwdfrydig ac uchelgeisiol i ymuno â'n tîm profiadol mewn ysgol arbennig iawn.

Croesewir ceisiadau gan athrawon sydd newydd gymhwyso ac athrawon profiadol.

Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â'r Pennaeth ar 01938500394.

Rydym yn chwilio am athro/athrawes sydd:
  • Ag angerdd diffuant dros addysgu a dysgu, gan ddangos brwdfrydedd sy'n ysbrydoli dysgwyr.
  • Yn chwaraewr tîm ymroddedig gyda sgiliau trefnu rhagorol, gyda'r gallu i gymryd cyfrifoldeb dros eu hymarfer eu hunain a rheoli amser yn effeithiol.
  • Â dealltwriaeth glir o'r Cwricwlwm i Gymru.
  • Â gwybodaeth a dealltwriaeth ragorol o ddatblygu sgiliau a phedagogiaeth.
  • Â phrofiad o addysgu ar draws gwahanol grwpiau blwyddyn, gan ddangos amlbwrpasedd ac addasrwydd.
  • Â disgwyliadau uchel o gyrhaeddiad ac ymrwymiad i godi safonau.
  • Â phrofiad o gefnogi plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), gan ddangos ymrwymiad i addysg gynhwysol.
  • Yn dangos parodrwydd i gymryd rhan weithredol ym mywyd ehangach yr ysgol, gan gyfrannu at weithgareddau allgyrsiol a digwyddiadau cymunedol.
  • Ag agwedd hunan-ysgogol tuag at ddatblygiad proffesiynol, gyda dyhead parhaus i ddysgu a thyfu.
Yn Ysgol Gynradd Pontrobert, rydym yn ymfalchïo mewn darparu amgylchedd gwaith cydweithredol. Gallwn gynnig i chi:
  • Tîm ymroddedig o staff a llywodraethwyr.
  • Dysgwyr cyfeillgar a brwdfrydig.
  • Cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol a thwf o fewn awyrgylch bositif.
  • Amgylchedd gwaith da sy'n annog creadigrwydd, arloesedd, a chariad at ddysgu.
  • Partneriaeth gref gyda rhanddeiliaid.
Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfle i wneud gwahaniaeth ym mywydau ein dysgwyr ifanc ac os ydych yn bodloni'r meini prawf uchod, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych! Mae ein hysgol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac mae'n disgwyl i bob aelod o staff rannu'r ymrwymiad hwn.

Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS.