THE DETAILS:.
  • Location: Rhondda Cynon Taf,
  • Subject: Not supplied
  • Hours: Part time
  • Contract: Temporary
  • Start Date: Not supplied
  • End Date: Not supplied
  • Salary Type: Per annum
  • Salary: Gradd 6 - £28,142 x 68.25%
  • Language: Any
  • Closing Date: 22 May, 2026 12:00 AM
Apply Now (CY)

Apply Now (EN)

You will be taken to an external page to complete your application.

Cynorthwy-ydd Addysgu (Lefel 3)

Rhondda Cynon Taf

Salary: Gradd 6 - £28,142 x 68.25%

Cynorthwy-ydd Addysgu (Lefel 3)

Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James

01443 486813

Cynorthwy-ydd Addysgu (Lefel 3)

28 ¾ awr y wythnos – yn ystod tymhorau’r ysgol yn unig

Cyflog - Gradd 6 – £28,142 x 68.25%

Dyddiad dechrau'r – Medi 1af, 2026

Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Evan James am benodi person cyfeillgar, cydwybodol a brwdfrydig. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol da ac yn medru sefydlu perthynas dda wrth weithio gyda phlant, athrawon a rhieni. Mae’r gallu i gyfathrebu yn hyderus yn y Gymraeg yn hanfodol.

Mae ffurflenni cais, a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a manyleb person ar gyfer y swydd, ar gael ar wefan Swyddi Ysgolion: https://ce0576li.webitrent.com/ce0576li_webrecruitment/wrd/run/ETREC105GF.open?WVID=2482495vvA&LANG=CYM

Nodwch bod angen i chi gwblhau'r ffurflen gais ar-lein ar Wefan Recriwtio'r Ysgol er mwyn ymgeisio ar gyfer y swydd yma. Os dydych chi ddim yn llenwi'r ffurflen gais ar-lein byddwn ni'n ystyried eich bod chi ddim wedi gwneud cais am y swydd.

Os ydych chi'n cael eich cyflogi gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd, dylech chi ymgeisio am y swydd gan ddefnyddio eich cyfrif hunanwasanaeth gweithwyr, nid y ddolen isod. Os ydych chi'n wynebu unrhyw broblemau wrth gael mynediad at eich Cyfrif Hunanwasanaeth Gweithwyr, cysylltwch â Charfan Gweinyddu iTrent drwy ffonio 01443 680760 neu e-bostio: itrentadmin@rctcbc.gov.uk

Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch chi am y swydd, ffoniwch Mrs Emma Smith, Pennaeth, ar 01443 486813.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos (12am) ar 22/05/2026.

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.