THE DETAILS:.
Apply Now (CY)
- Location: Pontardawe,
- Subject: Not supplied
- Hours: Full time
- Contract: Permanent
- Start Date: Not supplied
- End Date: Not supplied
- Salary Type: Per annum
- Salary: Cyflog: Gradd 5 (SCP 10-17) - £18,173 - £20,357 y flwyddyn (Yn amodol ar gyfrifiad cyflog tymor os yw’r dyddiad dechrau ar ôl Medi 1af)
- Language: English
- Closing Date: 10 June, 2026 12:00 AM
Apply Now (EN)
You will be taken to an external page to complete your application.
Salary: Cyflog: Gradd 5 (SCP 10-17) - £18,173 - £20,357 y flwyddyn (Yn amodol ar gyfrifiad cyflog tymor os yw’r dyddiad dechrau ar ôl Medi 1af)
SWYDD CYNORTHWYYDD ADDYSGU LEFEL 3Dros Dro
27.5 awr yr wythnos (39 wythnos y flwyddyn)
Ar gyfer: Medi 1af, 2026
Mae'r Corff Llywodraethu yn awyddus i benodi unigolyn brwdfrydig a dibynadwy i ymuno â'r ysgol hapus a llwyddiannus hon. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o dan gyfarwyddyd ac arweiniad y staff addysgu i ymgymryd â rhaglenni gwaith, gofal a chynnig cefnogaeth gyffredinol i'r staff a disgyblion. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus cefnogi ethos gefnogol yr ysgol.
Mae ysgol Gymraeg Pontardawe yn gymuned hapus a chyfeillgar gydag ethos gofalgar a chefnogol. Rydym yn chwilio am berson gyfrifol gyda'r angerdd i wella a chodi safonau disgyblion tra'n cynnig perthynas ofalgar mewn amgylchedd ysgogol a diogel sy'n annog pob disgybl i gyrraedd ei lawn botensial.
Mae'r swydd yma am 27.5 awr yr wythnos, 39 wythnos y flwyddyn am flwyddyn yn unig yn y man cyntaf gyda'r posibilrwydd o ymestyn.
Mae'r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Plant).
Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymroddiad hwn. Mae gan ein hysgolion yr un ymroddiad i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a'u hamddiffyn a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.
The above post is for a Teaching Assistant at YGG Pontardawe for which the ability to speak Welsh is essential
Gellir cael gwybodaeth pellach drwy gysylltu â Mr Martin Evans, Pennaeth ar 01792 862136.
Gallwch lawrlwytho pecyn cais o www.eteach.com neu cysylltwch â'r ysgol drwy e -bost neu drwy ffonio 01792 862136, gan ddyfynnu teitl y swydd a'r rhif cyfeirnod . Dylai ffurflenni cais wedi'u cwblhau gael eu dychwelyd i Ysgol Gymraeg Pontardawe, Rhodfa Alltacham, Pontardawe, SA8 4JR .
Y DYDDIAD CAU ar gyfer derbyn ffurflenni cais wedi'u cwblhau yw 10/06/26