THE DETAILS:.
  • Location: Swansea,
  • Subject: Not supplied
  • Hours: Not supplied
  • Contract: Not supplied
  • Start Date: Not supplied
  • End Date: Not supplied
  • Salary Type: Not Supplied
  • Salary: Not supplied
  • Language: English
  • Closing Date: 22 June, 2026 12:00 AM
Apply Now (CY)

Apply Now (EN)

You will be taken to an external page to complete your application.

Ysgol Gynradd Gymraeg Gellionnen: Deputy Headteacher

Swansea Council
Mae'r Corff Llywodraethol yn dymuno penodi Dirprwy Bennaeth brwdfrydig, ymroddedig ac ysbrydoledig i ymuno â'n hysgol. Mae'r Pennaeth a'r Corff Llywodraethol yn chwilio am unigolyn gwybodus a blaengar a fydd yn gweithio fel rhan o dîm arweinyddiaeth uchel ei gymhelliant, gan ddarparu arweinyddiaeth gref ar draws yr ysgol. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ymrwymiad clir i hyrwyddo lles disgyblion a staff, ac i sicrhau safonau uchel o addysgu a dysgu, gan chwarae rôl allweddol wrth arwain yr ysgol ymlaen i'r cam nesaf yn ei datblygiad.

Gwahoddir ceisiadau gan unigolion ymroddedig sydd:
  • yn meddu ar ddawn addysgu ardderchog
  • â sgiliau arwain cryf, cadarn ac effeithiol, gyda phrofiad o arwain a chyflwyno gwelliannau ar draws yr ysgol gyfan
  • yn gallu ysgogi ac ysbrydoli pob aelod o staff
  • â phrofiad o sicrhau atebolrwydd clir ar bob lefel
  • yn meddu ar sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu rhagorol
  • wedi ymrwymo i'w datblygiad proffesiynol parhaus eu hunain fel arweinydd y dyfodol
  • yn wybodus am ddatblygiadau cwricwlaidd cyfoes, gan gynnwys strategaethau i gryfhau safonau

Gallwn gynnig:
  • amgylchedd ysgol gefnogol a chynhwysol
  • tîm staff ymroddedig, cydweithredol
  • cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol a datblygu arweinyddiaeth
  • cefnogaeth gref gan y Pennaeth a'r Corff Llywodraethol
  • cyfle i chwarae rôl allweddol wrth lunio a datblygu cyfeiriad strategol yr ysgol
  • disgyblion ymroddedig sy'n barod i ddysgu ac yn ymateb yn gadarnhaol i heriau
  • ymrwymiad parhaus i godi safonau addysgu a dysgu
  • amgylchedd sy'n gwerthfawrogi arloesedd ac yn annog rhannu arferion da

Mae'r swydd hon yn amodol ar gais Datgelu Uwch i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Ysgol Gynradd Gymraeg Gellionnen - Deputy Headteacher - Job description ( PDF, 171 KB )

Ysgol Gynradd Gymraeg Gellionnen - Deputy Headteacher - Person specification ( PDF, 182 KB )

Application form - headteacher/deputy headteacher ( Word doc, 171 KB )

Dylid dychwelyd y ffurflen gais at [email protected]

Ni ddylai eich llythyr cais ategol fod yn hwy na 2,000 o eiriau (maint ffont 12 neu faint 14 ar gyfer nam ar y golwg).

Byddem yn eich annog i ymweld â'n hysgol, fel y gallwch weld drosoch eich hun beth sydd gan yr ysgol i'w gynnig. Gellir drefnu taith o amgylch yr ysgol ar gyfer darpar ymgeiswyr drwy gysylltu gyda [email protected]

Dyddiad cau: 22.06.26 @ 11.00am

Rhestr fer: 23.06.26 - Bydd arsylwad gwers yn cael ei drefnu ar gyfer yr ymgeiswyr sy'n cyrraedd y rhestr fer.

Cyfweliadau: 01.07.26

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Last modified on 04 June 2026

Is this page useful? No Report a problem with this page
// This will stay here var feedbackOptions = { showYes: true, showProblem: true, positiveText: "Yes", feedbackQuestion: "Is this page useful?", feedbackText: "Thank you for your feedback", contentArticleId: 46313 }; gi.feedback(feedbackOptions);