THE DETAILS:.
  • Location: Llanfair Caereinion,
  • Subject: Not supplied
  • Hours: Full time
  • Contract: Temporary
  • Start Date: Not supplied
  • End Date: Not supplied
  • Salary Type: Per annum
  • Salary: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £25,583 i £25,989 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.47 yr awr
  • Language: Any
  • Closing Date: 28 June, 2026 12:00 AM
Apply Now (CY)

Apply Now (EN)

You will be taken to an external page to complete your application.

Cynorthwyydd Addysgu (Generig Lefel 2) (Ysgol Bro Caereinion)

Powys County Council

Salary: Graddfa 4 Pwynt 5 i Bwynt 6 £25,583 i £25,989 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.47 yr awr

Cynorthwyydd Addysgu (Generig Lefel 2) (Ysgol Bro Caereinion)
Job description

Welsh language skills are essential

Ar hyn o bryd mae gan Gyngor Sir Powys dâl atodol Cyflog Byw Gwirioneddol yn ôl disgresiwn i weithwyr sy'n ennill llai na £13.45 yr awr.

Cynorthwyydd Addysgu (Generig Lefel 2)

Graddfa cyflog 4, pwynt 5 i 6

5 diwrnod

30 awr yr wythnos, 38 wythnos y flwyddyn

Ar gyfer ysgol pob oed

YSGOL BRO CAEREINION

Ei hangen o'r 1 af o Fedi 2026

Learning Assistant (Generic Level 2) at Ysgol Bro Caereinion.

This is a role where the ability to read, write and speak in Welsh (Common European Framework of Reference (CEFR) C levels: Proficient user) is essential.

CYNNWYS
  • Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Corff Llywodraethol a'r Pennaeth
  • Swydd ddisgrifiad
  • Manyleb person

  • YSGOL BRO CAEREINION

    Cynorthwyydd Addysgu - Generig Lefel 2

    Graddfa 4, Pwynt 5 i 6

    Parhaol: 30 awr yr wythnos, 38 wythnos y flwyddyn

    Mehefin 2026

    Annwyl Ymgeisydd

    Mae Ysgol Bro Caereinion yn awyddus i benodi cynorthwyydd addysgu brwdfrydig a chydwybodol sy'n frwd dros gefnogi dysgu, medrau a lles ein disgyblion fel eu bod yn barod i ddysgu a ffynnu. Byddwch yn cefnogi disgyblion cynradd ac uwchradd o fewn y dosbarth ac fel rhan o grwpiau ymyrraeth tu allan i'r dosbarth.

    Fel ysgol pob oed sy'n symud ar hyd y continwwm iaith, byddwch yn gweithio o dan arweiniad ein CADY a staff addysgu i weithredu a goruchwylio gweithgareddau dysgu y cytunwyd arnynt gyda disgyblion unigol a grwpiau bach o ddisgyblion, yn yr ystafell ddosbarth, neu y tu allan iddi. Gall hyn gynnwys cynorthwyo i gynllunio, paratoi a chyflwyno'r gweithgareddau dysgu, yn ogystal a monitro disgyblion, asesu, cofnodi ac adrodd ar gyflawniadau, cynnydd a datblygu, o dan gyfarwyddyd yr uwch dim arwain a'r athro / athrawes ddosbarth.

    Fel rhan o weledigaeth ein hysgol O'n Bro, i'r Byd 'rydym yn angerddol dros:
    • Sicrhau safon uchel o addysgu a dysgu i ddatblygu pob disgybl i'w lawn botensial
    • Cyflwyno profiadau dysgu rhagorol ac eang i bawb trwy osod disgwyliadau uchel o ran cyrhaeddiad
    • Datblygu lles emosiynol, corfforol a meddyliol disgyblion trwy ddarparu cymuned ysgol ddiogel a pharchus lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn
    • Meithrin ein hunaniaeth ddiwylliannol a'n treftadaeth, gan alluogi pawb i ddefnyddio'r Gymraeg a Saesneg yn hyderus, gan fanteisio ar bob cyfle yn y dyfodol.
    Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn sefydlu perthynas waith gadarnhaol gyda disgyblion ac yn gosod disgwyliadau dysgu ac ieithyddol uchel trwy gyfrwng y Gymraeg.

    Mae Ysgol Bro Caereinion yn ysgol sy'n symud ar hyd y continwwm iaith, ac mae'r gallu i siarad, darllen ac ysgrifennu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon (Lefel C - Defnyddiwr hyfedr ar y Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewrop ar gyfer Ieithoedd (CEFR)). Peidiwch ag oedi i gysylltu gyda'r ysgol os dymunwch sgwrs gyda'r pennaeth neu i ddod i ymweld â'r ysgol. Dymunwn bob hwyl i chi gyda'ch cais.

    Yn gywir

    Myfanwy Alexander Anwen Orrells

    Cadeirydd y Llywodraethwyr Pennaeth

    Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS.