THE DETAILS:.
  • Location: Swansea,
  • Subject: Not supplied
  • Hours: Not supplied
  • Contract: Not supplied
  • Start Date: Not supplied
  • End Date: Not supplied
  • Salary Type: Not Supplied
  • Salary: Not supplied
  • Language: English
  • Closing Date: 19 June, 2026 12:00 AM
Apply Now (CY)

Apply Now (EN)

You will be taken to an external page to complete your application.

Ysgol Gyfun Bryn Tawe: Pastoral Assistant

Swansea Council
Croesawn geisiadau gan unigolion â'r brwdfrydedd a'r angerdd i gyfrannu at wella profiadau disgyblion yn yr ysgol yn ogystal â chyfrannu at fwrlwm addysgu Cymraeg yn Abertawe. Rydym yn benodol yn edrych am unigolion sydd â'r angerdd, y gallu neu'r profiad a'r natur i gefnogi unigolion a grwpiau o ddisgyblion i oresgyn unrhyw rhwystrau i'w dysgu.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn arwain ar ddatblygu a chyflwyno rhaglen hyfforddiant emosiynol i gefnogi lles disgyblion, gan sicrhau bod y darpariaeth yn gynhwysol, effeithiol ac yn ymateb i anghenion unigol. Byddant hefyd yn rheoli ystafell/oedd lles yr ysgol, gan greu amgylchedd diogel a thawel, darparu ymyrraethau addas, a chydweithio'n agos ag athrawon a staff bugeiliol i gefnogi disgyblion sy'n profi heriau emosiynol neu gymdeithasol.

Mae'r rolau newydd yma, sy'n gofyn am unigolion amyneddgar, didwyll ac adferol, yn allweddol i gefnogi ein disgyblion i fod y gorau allant fod ac i lwyddo drwy gyrraedd eu potensial. Mae'r angen am y gefnogaeth bwysig yma yn allweddol i lwyddiant ein disgyblion.

Sut i Ymgeisio:
Dyddiad Cau cyflwyno cais: Dydd Gwener 19fed Mehefin 2026 am 12pm
Cyflog: Graddfa Cyflog 6 Pro Rata amser tymor yn unig
Cytundeb: Telerau hyd y cytundeb i'w drafod yn y cyfweliad, potensial o swydd barhaol i'r ymgeiswyr addas

Ysgol Gyfun Bryn Tawe - Pastoral Assistant - Job Description ( PDF, 329 KB )

Application form - school-based support staff ( Word doc, 134 KB )

Mae'r gallu i gyfathrebu drwy'r Gymraeg yn allweddol ar gyfer y rôl hon.

Bydd y swydd yn amodol ar wiriad cymwysterau a dau eirda. Bydd cais yn cael ei wneud i ddatgelu cofnod troseddol yr ymgeisydd y cynigir y swydd hon iddo/iddi.

Dylid danfon am ffurflen gais a gwybodaeth bellach at:
Mrs Eirian Leonard, Rheolwr Busnes Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe, Heol Gwyrosydd, Penlan, Abertawe, SA5 7BU.
Dylid dychwelyd ffurflenni cais erbyn: Dydd Gwener 19fed Mehefin 2026

Mae'r awdurdod yn unol â'r Polisi Diogelu Corfforaethol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion ac yn disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Mae'r Awdurdod yn disgwyl i bawb o'r staff ymgymered â hyfforddiant diogelu gorfodol ar gyfer amddiffyn plant ac oedolion a derbyn y wybodaeth ddiweddaraf amdano.

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Last modified on 16 June 2026

Is this page useful? No Report a problem with this page
// This will stay here var feedbackOptions = { showYes: true, showProblem: true, positiveText: "Yes", feedbackQuestion: "Is this page useful?", feedbackText: "Thank you for your feedback", contentArticleId: 46517 }; gi.feedback(feedbackOptions);