THE DETAILS:
  • Location: Bersham Road, Wrexham, LL13 7UH
  • Subject: Construction
  • Hours: Full Time
  • Contract: Permanent
  • Salary Type: Annually
  • Salary Range: £26,911 - £41,598
  • Language: English

This job application date has now expired.

Lecturer in Multi-trade Construction Skills

Lecturer in Multi-trade Construction Skills

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau trwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth…

Teitl y Swydd: Darlithydd Sgiliau Aml Grefft Adeiladu

Lleoliad: Ffordd y Bers

Y Math o Gontract: Parhaol - Llawn Amser

Cyflog: £26,911 - £41,598 yn seiliedig ar asesiad cyflog a phrofiad perthnasol



Yma yng Ngholeg Cambria rydym yn chwilio am Ddarlithydd mewn sgiliau Aml Grefft Adeiladu i gyflwyno ein cyrsiau Mynediad a Lefel 1 ar ein safle ar Ffordd y Bers, Wrecsam.

Fel Darlithydd mewn Sgiliau Aml Grefft Adeiladu, byddwch yn cyflwyno ein cyrsiau Mynediad a Lefel 1 mewn Gwaith Brics, Gwaith Saer ac Asiedaeth, Plastro, Gwaith Plymwr a Phaentio ac Addurno. Gyda hyn mewn golwg, rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd â phrofiad ymarferol eang yn y maes Adeiladu. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr brwdfrydig, cadarn, uchel eu cymhelliant sy'n angerddol am addysg ac sy'n awyddus i wneud gwahaniaeth i'n dysgwyr.

Gofynion Hanfodol

Cymhwyster Lefel 3 neu gyfwerth mewn pwnc perthnasol i’r swydd, e.e. Adeiladu, Gosod Brics, Plastro, ac ati.

Profiad eang ym myd Adeiladu y gallwch ei ddangos.

Mae profiad o weithio gyda dysgwyr neu brentisiaid yn dra dymunol.

Mae’n rhaid bod gennych gymhwyster TAR neu fod yn fodlon gweithio tuag at hynny.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion, y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’, yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd y byddwch yn gwneud cais amdani ac os ydych yn llwyddiannus, efallai bydd gofyn i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau’r rhestr ymgeiswyr ar gyfer unrhyw swydd yn gynnar pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad cau i wneud cais: 28/06/21
JOB REQUIREMENTS
Essential Requirements

Level 3 or equivalent qualification in a professionally relevant subject eg: Construction, Bricklaying, Plastering etc.

A demonstrable breadth of experience within construction.

Previous experience of working with learners or apprentices is highly desirable.

You must have a PGCE or be willing to work towards this.