THE DETAILS:.
  • Location: Swansea,
  • Subject: Not supplied
  • Hours: Not supplied
  • Contract: Not supplied
  • Start Date: Not supplied
  • End Date: Not supplied
  • Salary Type: Not Supplied
  • Salary: Not supplied
  • Language: English
  • Closing Date: 11 September, 2026 12:00 AM
Apply Now (CY)

Apply Now (EN)

You will be taken to an external page to complete your application.

Ysgol Gynradd Gymraeg Bryn y Môr : Higher Level Teaching Assistant, HLTA Level 4

Swansea Council
Mae YGG Brynymor yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, ymroddedig a gofalgar i ymuno â'n tîm fel Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch (HLTA) Lefel 4.
Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi, cydlynu a gweithredu strategaethau lles ac ymyrraeth ar draws yr ysgol. Bydd y rôl yn canolbwyntio ar sicrhau bod pob disgybl yn cael y cymorth priodol i ffynnu'n academaidd, yn emosiynol ac yn gymdeithasol.

Mae hon yn swydd barhaol a llawn amser, gyda chyfle pwysig i'r ymgeisydd llwyddiannus ddatblygu rôl ganolog o fewn darpariaeth lles ac ymyrraeth yr ysgol.
Prif gyfrifoldebau:
  • Cydarwain a chydlynu prosesau lles ac ymyrraeth ar draws yr ysgol.
  • Cefnogi disgyblion unigol a grwpiau bach i oresgyn rhwystrau i ddysgu.
  • Cynllunio, gweithredu a monitro strategaethau cefnogi disgyblion.
  • Gweithio'n agos gyda staff addysgu, rhieni/gofalwyr ac asiantaethau allanol.
  • Asesu ac arfarnu effaith strategaethau ymyrraeth er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau i ddisgyblion.
  • Cyfrannu at ddatblygiad darpariaeth lles yr ysgol.
  • Cefnogi ethos cynhwysol, diogel a chefnogol yr ysgol.
  • Ymroddiad i'r iaith Gymraeg a'n diwylliant.

Rydym yn chwilio am rywun sydd:
  • Â diddordeb cryf mewn cefnogi lles, datblygiad a chynnydd plant.
  • Â phrofiad perthnasol o weithio gyda phlant, yn ddelfrydol mewn lleoliad ysgol.
  • Â sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol.
  • Yn gallu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm.
  • Yn drefnus, yn hyblyg ac yn gallu blaenoriaethu'n effeithiol.
  • Yn ymrwymedig i safonau uchel ac i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau disgyblion.
  • Yn gallu siarad Cymraeg.

Byddai cymhwyster HLTA Lefel 4 yn ddymunol. Fodd bynnag, i'r ymgeisydd cywir sydd â'r profiad, yr agwedd a'r sgiliau priodol, byddai'r ysgol yn barod i gefnogi'r unigolyn i gwblhau'r cymhwyster HLTA drwy'r ysgol.
Byddai disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau'r cymhwyster HLTA, os nad yw eisoes ganddo/ganddi, er mwyn bodloni gofynion y rôl hon.
Byddwn yn cynnig:
  • Swydd barhaol, lawn amser mewn ysgol groesawgar a chefnogol.
  • Cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau disgyblion.
  • Tîm cyfeillgar, cefnogol ac ymroddedig.
  • Cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus.
  • Hyfforddiant perthnasol ar gyfer y rôl, os bydd angen, i'r ymgeisydd llwyddiannus.
  • Cefnogaeth i gwblhau'r cymhwyster HLTA Lefel 4, lle bo hynny'n briodol.

Mae diogelu a hyrwyddo lles plant wrth wraidd ein gwaith. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad DBS manwl a bodloni holl ofynion recriwtio diogel.
Dyddiad Cau: 11.09.26 @11am
Dychwelwch eich ffurflen gais i [email protected]

Application form - school-based support staff ( Word doc, 134 KB )

Swydd ddisgrifiad CALU ( PDF, 407 KB )

Last modified on 10 August 2026

Is this page useful? No Report a problem with this page
// This will stay here var feedbackOptions = { showYes: true, showProblem: true, positiveText: "Yes", feedbackQuestion: "Is this page useful?", feedbackText: "Thank you for your feedback", contentArticleId: 47846 }; gi.feedback(feedbackOptions);