THE DETAILS:
  • Location: Ystrad, Rhondda Cynon Taf, CF41 7RX
  • Subject: Teaching Assistant
  • Hours: Part Time
  • Contract: Temporary
  • Start Date: 01 September, 2022
  • Salary Type: Annually
  • Language: Welsh
  • Closing Date: 05 August, 2022 12:00 PM

This job application date has now expired.

CYNORTHWYDD DYSGU DROS DRO (LEFEL 2) - YSGOL GYNRADD GYMRAEG BODRINGALLT

Ysgol Gynradd Gymraeg Bodringallt
YSGOL GYNRADD GYMRAEG BODRINGALLT
Bryn Terrace, Ystrad Rhondda, CF41 7RX

CYNORTHWYDD DYSGU DROS DRO – LEFEL 2

Oriau: 27.5 oriau yr wythnos – amser tymor yn unig

Cyflog – Gradd 4 £19,264 x 65%

Dtddiad Dechrau: Medi 2022 new cyn gynted â phosibl ar ôl hynny

Nifer y disgyblion wedi'u cofrestru: 140

Maw Corff Llywdraethol Ysgol Gynradd Gymraeg Bodringallt yn gwahodd ceisiadau gan ymgeiswyr I ymuno a thîm o bobl sydd yn cydweithio i sicrhau'r dechrau gorau posibl i bob disgybl ar ddechrau eu haddysg.

Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus weithio ochr yn ochr â'r aelodau staff presennol i ddarparu profiadau dysgu cyffrous a diddorol yn y dosbarth Meithrin. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus cael sgiliau llythrennedd, Cymraeg a Saesneg a rhifedd o safon uchel.

Mae modd cael ffurflenni cais a manylion pellach, gan gynnwys disgrifiad swydd a'r fanyleb person ar gyfer y rôl oddi neu drwy'r wefan Recriwtio Ysgolion yn https://rhondda-cynon-taf.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-3/brand-4/xf-c76d524b2100/candidate . Nodwch - i gyflwyno cais am y swydd yma, mae angen i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein sydd ar wefan Cyngor RhCT. O beidio â llenwi'r cais ar-lein byddwn ni'n cyfrif hynny fel nad ydych chi wedi gwneud cais am y swydd.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd 12pm ar Dydd Gwener 5 Awst 2022.

Cyfweliadau: Yr wythnos yn cychwyn Dydd Llun 8 Awst 2022.

MAE DIOGELU PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD YR YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD HEFYD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.