THE DETAILS:.
  • Location: Newtown, United Kingdom,
  • Subject: Not supplied
  • Hours: Part time
  • Contract: Permanent
  • Salary Type: Per annum
  • Salary: Not supplied
  • Language: English
  • Closing Date: 08 October, 2026 12:00 AM
Apply Now (CY)

Apply Now (EN)

You will be taken to an external page to complete your application.

Cydlynydd Cynadleddau (Theatr Hafren)

NPTC Group of Colleges
Ydych chi'n angerddol am theatr, cerddoriaeth a chelf ac eisiau chwarae rhan allweddol wrth ddarparu profiad rhagorol i'n holl gwsmeriaid? Yna beth am wneud cais i ymuno â'n tîm yn Theatr Hafren o fewn Grwp Colegau NPTC.

Cyflog: Graddfa 3, Pwyntiau 17 - 20, £26,462 - £28,496 y flwyddyn, pro rata sy'n gyfwerth â £11,443 - £12,322 y flwyddyn.

Oriau Gwaith: 16 awr yr wythnos (gan gynnwys gyda'r hwyr ac yn gynnar yn y bore ac ar benwythnosau yn achlysurol).

Contract: Parhaol, rhan-amser.

Ynglyn â chi: Dylai ymgeiswyr feddu ar gymhwyster lefel 3 (NVQ neu gyfwerth) a hefyd cymwysterau lefel 2 mewn Saesneg a Mathemateg (TGAU neu gyfwerth) a phrofiad perthnasol a bod yn hyddysg mewn TG hyd at lefel 2.

Ynglyn â ni: Grwp Colegau NPTC yw un o'r darparwyr Addysg Bellach mwyaf yng Nghymru, gan ddarparu bron i bob maes addysg a hyfforddiant galwedigaethol gan gynnwys rhaglen gyffrous ac amrywiol o gyrsiau amser llawn a rhan-amser ar draws lleoliadau o Dde i Ganolbarth Cymru.

Mae Grwp Colegau NPTC wedi bod yn addysgu cenedlaethau'r dyfodol ers dros 90 mlynedd, a chredwn fod cymwysterau a hyfforddiant yn allweddol i lawer o lwybrau gyrfa gwerth chweil. Gyda'n staff addysgu hynod gymwys a'u cyfoeth o wybodaeth am ddiwydiant wrth law, byddwn yn agor y drws i ddyfodol llwyddiannus a llawn boddhad. Mae myfyrwyr wrth wraidd popeth a wnawn, ac rydym am iddynt ein gadael wedi cael mwy nag addysg yn unig.

Pam y dylech chi weithio i ni?

Yn ogystal â chyflogau cystadleuol, mae ein cynlluniau pensiwn ymhlith y gorau sydd ar gael. Caiff y rhain eu gweinyddu drwy'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu'r Cynllun Pensiwn Athrawon ac maent yn darparu pensiynau sy'n cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant. Rydym yn cyfrannu o leiaf £10 i'ch pensiwn, am bob £100 rydych chi'n ei ennill.

Mae gennym ystod o opsiynau gweithio hyblyg posibl ar gael gan gynnwys gweithio ystwyth, absenoldeb sabathol a rhannu swydd, lle mae'n diwallu anghenion y Coleg. Mae buddion salwch yma yn hael, ac mae staff hefyd yn cael mynediad am ddim at iechyd galwedigaethol annibynnol, y Llinell Gymorth i Weithwyr, llinell gymorth rheoli bywyd a chymorth personol 24 awr. Mae'r Coleg hefyd yn cyflogi Cydlynydd Iechyd a Llesiant penodedig, sy'n darparu cefnogaeth ac yn trefnu digwyddiadau poblogaidd iawn ar draws y Grwp, yn ogystal â darparu mynediad i amrywiaeth o adnoddau llesiant rhad ac am ddim.

Mae maes parcio am ddim ym mhob un o'n prif golegau yn ogystal â lle i storio beiciau, ac os ydych wedi'ch lleoli yn y De gallwn hefyd gynnig gostyngiad o 10% ym Meithrinfa Ddydd Lilliput yng Nghastell-nedd.

Mae'r Coleg yn addysgwr ac felly rydym yn hyrwyddo ac yn annog Datblygiad Proffesiynol Parhaus yn weithredol i'n holl staff; efallai y byddwn hyd yn oed yn gallu cyfrannu at y ffioedd ar gyfer graddau uwch a chymwysterau eraill sy'n ddefnyddiol i'ch swydd.

Ar ben hyn i gyd, mae gweithio yn y Coleg yn rhoi'r fraint inni fod yn rhan o helpu ein dysgwyr a'n cymunedau i lwyddo a ffynnu.

Mae Grwp Colegau NPTC yn cynnig llawer mwy na chyflogau da yn unig!