THE DETAILS:.
  • Location: Swansea,
  • Subject: Not supplied
  • Hours: Not supplied
  • Contract : Not supplied
  • Start Date: Not supplied
  • End Date: Not supplied
  • Salary Type : Not Supplied
  • Salary : Not supplied
  • Language: English
  • Closing Date: 09 December, 2026 12:00 AM
Apply Now (CY)

Apply Now (EN)

You will be taken to an external page to complete your application.

Ysgol Gynradd Gymraeg Y Login Fach : Pennaeth

Swansea Council
Pennaeth: Ysgol Gynradd Gymraeg Y Login Fach, Waunarlwydd, Swansea

Cyflog: Graddfa Arweinyddiaeth L12-L18

I ddechrau ar: 5ed o Ebrill 2027

Mae Corff Llywodraethol Ysgol Gynradd Gymraeg Y Login Fach yn ceisio penodi Pennaeth ysbrydoledig, ymroddedig a blaengar.

Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Y Login Fach yn ysgol fywiog, gynhwysol a chroesawgar gyda 218 o ddisgyblion ar y gofrestr. Ein nod yw meithrin dysgwyr iach, hyderus, gonest a chreadigol, mewn amgylchedd hapus, diogel a gofalgar lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi a'u hannog i ffynnu.

Rydym yn ymfalchïo yn ein hunaniaeth a'n diwylliant Cymreig, ac mae ein gwerthoedd craidd yn siapio pob agwedd ar fywyd ysgol. Rydym yn ymdrechu i ddarparu amgylchedd ysbrydoledig a chefnogol lle mae pob disgybl ac ymdeimlad cryf o berthyn ac yn cael cyfleoedd i ddatblygu eu doniau a chyrraedd eu potensial llawn.

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu profiadau dysgu arloesol, creadigol a diddorol trwy addysgu effeithiol, cydweithredu a chyfathrebu clir. Rydym yn dathlu cyflawniad yn ei holl ffurfiau - academaidd, creadigol, diwylliannol, chwaraeon a chymdeithasol - wrth hyrwyddo llês disgyblion a meithrin hyder a hunan-barch.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y weledigaeth, yr angerdd a'r sgiliau arwain i adeiladu ar ethos yr ysgol a'i harwain ar gam nesaf ein datblygiad. Gan weithio mewn partneriaeth â staff, llywodraethwyr, disgyblion, rhieni a'r gymuned ehangach, bydd y Pennaeth newydd yn cael cefnogaeth gan y Corff Llywodraethol i adeiladu ar gryfderau'r ysgol a gwella'r cyfleoedd a'r profiadau rydym yn eu darparu i'n holl ddisgyblion.

Rydym yn chwilio am arweinydd sydd:
  • A hanes profedig o arweinyddiaeth lwyddiannus a gwelliant ysgolion.
  • Yn angerddol am sicrhau'r safonau uchaf o addysgu, dysgu a llês ar gyfer bob disgybl.
  • Yn gallu ysbrydoli, ysgogi a datblygu staff.
  • Ac angerdd gwirioneddol dros hyrwyddo diwylliant Cymreig a'i defnydd naturiol yn ddyddiol yn yr ysgol a thu hwnt
  • Ac ymrwymiad cryf i gynhwysiant, tegwch a diwallu anghenion pob dysgwr.
  • A'r weledigaeth strategol a'r sgiliau trefnu i arwain newid yn effeithiol tra'n cynnal ethos meithringar yr ysgol.
  • Gwerthfawrogi cydweithredu a'r gallu i adeiladu partneriaethau cynhyrchiol gyda disgyblion, teuluoedd, llywodraethwyr, yr awdurdod lleol a'r gymuned ehangach.
  • Dealltwriaeth eang o Gwricwlwm Cymru a'r datblygiadau addysgol cyfredol.

Gallwn gynnig:
  • Disgyblion brwdfrydig, cwrtais ac ymgysylltiedig sy'n falch o'u hysgol.
  • Staff ymroddedig, profiadol a gweithgar sydd wedi ymrwymo i wella parhaus.
  • Corff Llywodraethu cefnogol sydd wedi ymrwymo i lwyddiant yr ysgol.
  • Perthnasoedd cryf â rhieni, gofalwyr a'r gymuned ehangach.
  • Ysgol gynhwysol sy'n cefnogi llês a chyflawniad disgyblion.
  • Cyfleoedd i weithio ar y cyd â phartneriaid lleol a rhanbarthol.

Gwybodaeth am y Cais

Dyddiad Cau: 27ain o Dachwedd 2026 (am 12.00 - hanner dydd)

Rhestr Fer: 30ain o Dachwedd 2026

Ein bwriad yw hysbysu'r ymgeiswyr ar y rhestr fer erbyn diwedd y dydd ar y 30ain o Dachwedd.

Sylwch fod amser troi byr rhwng y rhestr fer a'r cyfweliadau, felly gwnewch yn siŵr y bydd eich cyfeirwyr ar gael i roi geirda os ydych yn llwyddiannus ar y rhestr fer.

Dyddiad Cyfweliad: 9fed o Ragfyr 2026

Anfonwch ffurflenni cais wedi'u llenwi at [email protected]

Application form - headteacher/deputy headteacher ( Word doc, 171 KB )

Disgrifiad_Swydd_-_Pennaeth_Ysgol_Gynradd_ master HT JD ( PDF, 226 KB )

Manyldeb Person Ysgol LF ( PDF, 222 KB )

Mae'r Awdurdod yn unol â'r Polisi Diogelu Corfforaethol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llês plant, pobl ifanc ac oedolion ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Mae'r Awdurdod yn disgwyl i'r holl staff ymgymryd â hyfforddiant diogelu gorfodol ar gyfer amddiffyn plant ac oedolion. Bydd unrhyw gynnig cyflogaeth yn destun datgeliad DBS uwch. Rhaid i ymgeiswyr fod wedi'u cofrestru gyda'r CGA cyn dechrau cyflogaeth.

Diogelu

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Last modified on 26 October 2026

Is this page useful? No Report a problem with this page