THE DETAILS:.
  • Location: Ygg Rhosafan,
  • Subject: Not supplied
  • Hours: Full time
  • Contract : Temporary
  • Start Date: Not supplied
  • End Date: Not supplied
  • Salary Type : Not Supplied
  • Salary : Blank
  • Language: English
  • Closing Date: 24 November, 2026 12:00 AM
Apply Now (CY)

Apply Now (EN)

You will be taken to an external page to complete your application.

Cynowrthwy-ydd Addysgu - Lefel 2

Neath Port Talbot Council

Salary: Blank

SWYDD CYNORTHWY-YDD ADDYSGU LEFEL 2

Dros Dro - 27.5 + 2.5 (dyletswydd cinio) awr yr wythnos (39 wythnos y flwyddyn)

I ddechrau - Cyn gynted â phosibl.

Mae'r Corff Llywodraethu yn awyddus i benodi unigolyn profiadol, brwdfrydig a dibynadwy i ymuno â thim yr ysgol hapus a llwyddiannus hon. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio o dan gyfarwyddyd ac arweiniad y staff addysgu a staff uwch i gefnogi'r dysgu ar gyfer plant a chynnig cefnogaeth gyffredinol i'r staff a disgyblion.

Mae'r swydd hon yn amodol ar Ddatgeliad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Plant)

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwbl ymroddedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc, ac mae'n disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymroddiad hwn. Mae gan ein hysgolion yr un ymroddiad i sicrhau bod ein holl blant a phobl ifanc yn cael eu diogelu a'u hamddiffyn a byddant yn gweithredu i ddiogelu eu lles. Wrth wraidd y broses recriwtio ar gyfer y swydd hon bydd asesiad recriwtio mwy diogel trylwyr i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn.

Swydd Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel 2

Cyflog: Gradd 3, SCP 4 - 5

Cyflog: £26,016 - £26,427 pro rata (yn gymesur â'r oriau a'r wythnosau a weithir)

Swydd Dyletswydd Cinio

Cyflog: Gradd 1, SCP 3

Cyflog: £1,730 y flwyddyn

Am becyn cais ac am wybodaeth ynglyn â sut i gyflwyno eich cais, ewch i www.npt.gov.uk/jobs

Dyddiad Cau: 12.00 canol dydd, Dydd Mawrth, 24ain o Dachwedd 2026.

Mae'r hysbyseb uchod ar gyfer Cynorthwyydd Addysgu dros dro yn YGG Rhosafan, ac mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon.