THE DETAILS:.
Apply Now (CY)
- Location: Ysgol Gynradd Gymraeg Cynwyd Sant,
- Subject: Not supplied
- Hours: Full time
- Contract : Temporary
- Start Date: Not supplied
- End Date: Not supplied
- Salary Type : Not Supplied
- Salary : £24,504 - £25,327 y flwyddyn
- Language: Any
- Closing Date: 09 December, 2026 12:00 AM
Apply Now (EN)
You will be taken to an external page to complete your application.
Goruwchwylydd Cyflenwi (Dros dro) - Ysgol Cynwyd Sant
Bridgend County Borough Council
Salary: £24,504 - £25,327 y flwyddyn
Tymor yr Ysgol32.5 awr yr wythnos
Dros dro tan 31 Awst 2027
Dymuna Llywodraethwyr Ysgol Cynwyd Sant benodi goruwchwylydd cyflenwi llawn cymhelliant, gweithgar ac ymroddedig, gyda phrofiad o weithio yn y sector cynradd, i ymuno â'n tîm talentog, ymroddgar ac arloesol.
Bydd gofyn i chi oruchwylio dosbarthiadau ar draws y cyfnod cynradd, gan sicrhau bod dysgu a datblygiad y disgyblion yn parhau ac yn cael eu cynnal yn effeithiol.
Mae ethos Teulu Cynwyd Sant wrth wraidd pob agwedd o'n gwaith, gan feithrin amgylchedd cynnes, cefnogol ac ysbrydoledig lle mae unigoliaeth pob plentyn yn cael ei werthfawrogi a'i dathlu. Mae llwyddiant diweddar yr ysgol yn arolygiad Estyn yn adlewyrchu ansawdd ein disgyblion talentog, ymrwymiad ein staff ac ymgysylltiad cadarn ein cymuned ysgol.
Rydym yn ysgol sydd â safonau uchel a disgwyliadau clir ar gyfer pob aelod o'n cymuned, ac rydym yn chwilio am unigolyn sydd yn rhannu'r gwerthoedd hyn.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:
- Rhugl ac yn hyderus wrth gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac yn meddu ar safon dda o Gymraeg ysgrifenedig.
- Cefnogi ethos, gweledigaeth a gwerthoedd yr ysgol yn weithredol, sef #teulucynwydsant.
- Meddu ar ddisgwyliadau uchel ac ymrwymiad i sicrhau deilliannau da i ddisgyblion.
- Cyfrannu at gynllunio a gwerthuso gweithgareddau
- Meddu ar sgiliau rhyngbersonol rhagorol er mwyn cyfathrebu'n effeithiol â phlant, staff a rhieni/gofalwyr fel ei gilydd.
- Bod yn ymroddedig i'w datblygiad proffesiynol ei hun ac i welliant ysgol.
- Gwneud cyfraniad gwerthfawr i fywyd ehangach yr ysgol.
- Dod â rhinweddau, sgiliau a thalentau i dîm staff Ysgol Cynwyd Sant.
Byddwch wedi ennill cymhwyster o leiaf ar lefel NVQ Lefel 4 neu gymhwyster cyfatebol, a bydd gennych brofiad da o weithio gyda phlant mewn amgylchedd ysgol.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 09 Rhagfyr 2026
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 10 Rhagfyr 2026
Dyddiad y Cyfweliad: 14 Rhagfyr 2026
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person