THE DETAILS:
  • Location: Pontypridd, Rhondda Cynon Taf, CF38 2AA
  • Subject: Higher Level Teaching Assistant
  • Hours: Part Time
  • Contract: Permanent
  • Salary Type: Annually
  • Language: Welsh

This job application date has now expired.

Arweinydd y Feithrin – CALU/HLTA (Lefel 4)

Ysgol Gynradd Gymraeg Castellau
YSGOL GYNRADD GYMRAEG CASTELLAU

Heol Castellau

Beddau

CF38 2AA

01443562206

Oedran 3 – 11

Nifer ar y gofrestr 137

ARWEINYDD Y FEITHRIN – CALU/HLTA (LEFEL 4)

32.5 awr (Oriau ysgol)

Grade 7 (£26,845 x 76.82%)

I ddechrau cyn gynted ag sy’n bosib.

Dymunai’n hysgol gofalgar a chyfeillgar benodi aelod o staff i arwain y dosbarth Meithrin (dysgwyr rhan amser, boreau yn unig). Rydym eisiau darganfod y person cywir i ymgymryd â’r rôl bwysig fel yr wyneb cyntaf y mae’n dysgwyr yn dod i nabod wrth iddynt ddechrau eu hamser gyda ni. Yn ddelfrydol bydd gan unrhyw gynorthwyydd sy’n ymgeisio achrediad CALU L4, neu y byddent yn y broses o ymgymryd yn yr hyfforddiant i dderbyn yr achrediad. Bydd yr ymgeisydd lwyddiannus yn medru dangos y canlynol:

Y gallu i ddarparu profiadau addysgeg effeithiol i ddysgwyr oed Meithrin
Rheolaeth gofalgar, cadarn a threfnus wrth gofalu am grwp o blant a rheoli adnoddau
Sgiliau cydweithio effeithiol er mwyn cyd-gynllunio profiadau dysgu gydag athrawes y Derbyn
Sgiliau rhyngbersynol rhagorol er mwyn cydweithio gyda’r staff, rieni/gofalwyr ac asiantaethau eraill.
Dealltwriaeth gadarn o’r Cwricwlwm a datblygiad plant, yn cynnwys sut i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol.
Gallem gynnig datblygiad proffesiynol ardderchog, cefnogaeth barhaus ac amgylchedd gwaith hapus ac hwyliog wrth ddod yn rhan o’n tîm. Fel ysgol un ffrwd, cymunedol, rydym yn agos at ein teuluoedd ac yn ymfalchio yn ein hanes o ddarparu addysg a phrofiadau gwerthfawr i blant y Beddau a’r ardaloedd cyfagos.

Mae croeso i chi gysylltu’r ysgol am sgwrs, ymweliad anffurfiol neu i ofyn unrhyw gwestiynau pellach am y swydd yma, trwy ffonio Daniel Jones, y Pennaeth, ar 01443562206

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Gwener, Ionawr 20 am 12:00pm

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDB CRAIDD I'R HOLL STAFF A BENODIR GAN Y CYNGOR.

YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.

Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.