THE DETAILS:
  • Location: SWANSEA, Swansea, SA2 9EB
  • Subject: Technician
  • Hours: Full Time
  • Contract: Permanent
  • Salary Type: Annually
  • Salary Range: £22,658 - £24,665
  • Language: Welsh
  • Closing Date: 17 May, 2023 11:59 PM

This job application date has now expired.

Technegydd TG (Cymraeg Hanfodol)

Technegydd TG (Cymraeg Hanfodol)

Gower College Swansea
Amdanom ni:

Coleg Gwyr Abertawe yw un o golegau mwyaf Cymru ac mae gennym enw da iawn am addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae gennym chwe champws ledled y ddinas a dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser. Ar hyn o bryd, mae gennym drosiant o £50 miliwn, sy’n golygu ein bod yn gyflogwr sylweddol yn y rhanbarth. Rydym yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Yng Ngholeg Gwyr Abertawe, rydym yn angerddol am fuddsoddi yn ein staff a gofalu am eu lles, er mwyn sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth yn y gwaith a gartref.

Y rôl:

Mae’r Coleg yn ceisio gwella ymhellach y cyfleusterau TG sydd ar gael i fyfyrwyr a staff.

Amser-Llawn (37 awr yr wythos)
Parhaol
£22,658 - £24,665 per annum
Ar draws amrywiol safleoedd

Cyfrifoldebau Allweddol:

Darparu cymorth meddalwedd a chaledwedd llinell 1af ac 2il i fyfyrwyr a staff y Coleg a chydymffurfio ag arferion a pholisïau gweithio Technegydd TG.
Darparu cefnogaeth dechnegol a chynnal a chadw meddalweddau a ddefnyddir o fewn rhwydweithiau’r Coleg.
Gosod a ffurfweddu caledwedd a meddalwedd cyfrifiadurol er mwyn sicrhau bod pob dim yn cael ei weithredu i’r safon uchaf posib.

Amdanoch chi:

Siaradwr Cymraeg yn hanfodol - Lefel 4
Yn gymwys ar lefel 3 neu’n uwch mewn disgyblaeth TG neu ddisgyblaeth gysylltiedig.
Hanes blaenorol o weithio fel Technegydd TG neu rol debyg, gyda phrofiad wedi’I ennill mewn sefydliad Masnachol neu Addysg.

Buddion:

28 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc. Hefyd, mae’r Coleg ar gau am bythefnos dros gyfnod y Nadolig.
Disgowntiau ar gostau astudio os ydych yn astudio un o gyrsiau’r Coleg.
Parcio am ddim & Cynllun beicio i’r gwaith.
Cliciwch y linc i ddarganfod rhagor o fuddion: https://www.gcs.ac.uk/cy/recruitment/benefits-and-wellbeing
Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, waeth beth fo’u hoedran, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan grwpiau nad ydynt wedi’u cynrychioli’n ddigonol o fewn ein sefydliad.

Os hoffech ymgymryd â’r broses ymgeisio trwy gyfrwng y Gymraeg, ewch i’n gwefan Cymraeg. Rydym yn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau Cymraeg gan ein bod yn cydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau Cymraeg a’r angen i ehangu gweithlu dwyieithog.

Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac rydym yn disgwyl i bob aelod o staff gydymffurfio â’r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â gwiriad DBS manylach a chofrestru gyda Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.

Rydym yn disgwyl nifer fawr o ymgeiswyr ar gyfer y swydd wag hon. Os derbynnir llawer o geisiadau, efallai y byddwn yn atal unigolion rhag cyflwyno cais cyn y dyddiad penodedig. Awgrymir felly ichi gyflwyno’ch cais yn gynnar.

Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (yn amodol ar ddyddiad cychwyn cyn Chwefror 1).