THE DETAILS:
  • Location: Caerphilly,
  • Subject: Head of Department
  • Hours: Part time
  • Contract: Permanent
  • Salary Type: Annual
  • Salary Range: £60,000.00 - £65,000.00
  • Language: Welsh

This job application date has now expired.

Deputy Head Teacher - Ysgol Gynradd Gymraeg Y Castell

Deputy Head Teacher - Ysgol Gynradd Gymraeg Y Castell

Caerphilly County Borough Council
Deputy Head Teacher - Ysgol Gynradd Gymraeg Y Castell
Job description
YSGOL GYNRADD GYMRAEG Y CASTELL

Cerddwn ymlaen ȃ ffydd yn ein cȃn.

Dirprwy Bennaeth (Ail-hysbysebiad)

Cytundeb llawn amser a pharhaol o Fedi 2023



(neu mor gynted ȃ phosibl ar ôl y dyddiad yma)

Amserlen addysgu 50% gydag amser dynodedig arweinyddol 50%

Graddfa Gyflog Arweinyddol (L11 - 15)

Ysgol cyfrwng Cymraeg arloesol yw Ysgol Gynradd Gymraeg Y Castell a leolir yng nghysgod castell Caerffili.

Dymuna'r Corff Llywodraethol benodi Dirprwy Bennaeth newydd i arwain a modelu'r safonau uchaf o addysgu, dysgu ac arweinyddiaeth ar draws ein hysgol fawr a llewyrchus. Mae hwn yn gyfle heb ei ail i ddatblygu'n broffesiynol gan fireinio ac ymestyn eich sgiliau arweinyddol.

Mae gan Ysgol Gynradd Gymraeg Y Castell weledigaeth gytȗn o osod lles y plant yng nghanol popeth a wnawn a hyrwyddo llwyddiant i bawb yn yr ysgol. Yma, ceir 461 o ddisgyblion ymroddgar 3-11 oed, ymarferwyr ysbrydoledig, arweinyddiaeth gref a chwricwlwm cyfoes a chyffrous.

Yr ydym yn angerddol am ddathlu rhyfeddod a hynodrwydd plentyndod, meithrin dysgwyr gydol oes i fod y gorau y gallant a chefnogi pawb i oresgyn rhwystrau a fedrai lesteirio eu dysgu a'u lles.

Mae'r plant am benodi person ymroddgar, hyblyg ac arloesol i ymuno â theulu'r Castell. Dylai'r ymgeisydd arddangos brwdfrydedd heintus tuag at sicrhau rhagoriaeth ac yn arweinydd ysbrydoledig ac uchelgeisiol sy'n meddu ar ethos Cymreig o'r radd flaenaf. Mae'r gallu i arwain drwy esiampl er mwyn ysgogi eraill yn hanfodol.

Gallwn gynnig i chi:
  • ysgol flaengar sy'n agored iawn i syniadau newydd
  • plant huawdl, gweithgar a brwdfrydig sy'n falch o fod yn rhan o deulu'r Castell
  • tîm ymroddedig o staff sy'n cydweithio er lles ei gilydd a'r plant
  • rhwydwaith cymorth o arweinwyr profiadol a llywodraethwyr yr ysgol
  • rhaglen sefydlu lawn a datblygiad proffesiynol heb ei ail trwy fynediad at hyfforddiant gan yr Awdurdod Lleol a'r GCA
  • ethos o ostyngeiddrwydd ac ymrwymiad i gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
Gofynnwn yn garedig i'r holl ymgeiswyr gwblhau'r adran 'Amdanoch chi' yn ddwyieithog.

Er mwyn cael blas ar ein gwerthoedd a'n safonau, edrychwch ar ein gwefan a'n cyfrif Trydar. Hefyd, mae croeso cynnes i chi gysylltu ȃ ni i drefnu ymweliad ar 029 20864790.

Os credwch y byddech yn ffynnu yn ein hysgol ac y gallem ni elwa o'ch arweinyddiaeth, byddem wrth ein boddau clywed oddi wrthoch.

Gweld y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person.

Dyddiad cau: 22.06.23

Dyddiad rhestr fer: 29.06.23

Arsylwadau gwersi: wythnos yn dechrau 03.07.23

Dyddiad cyfweliad: 13.07.23

Ystyrir bod y gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol i ymgymryd â'r swydd hon. Felly, hysbysebir y swydd yn unol â darpariaethau Adran 38 o Ddeddf Cysylltiadau Hiliol 1976.

Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.

Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.