THE DETAILS:
  • Location: Ystrad, Rhondda Cynon Taf, CF41 7RX
  • Subject: Teacher
  • Hours: Full Time
  • Contract: Temporary
  • Start Date: 06 November, 2023
  • Salary Type: Annually
  • Salary Range: £29,278 - £45,085
  • Language: Welsh
  • Closing Date: 16 June, 2023 12:00 PM

This job application date has now expired.

ATHRO/ATHRAWES  (Cyfnod Mamolaeth Clawr)

ATHRO/ATHRAWES (Cyfnod Mamolaeth Clawr)

Ysgol Gynradd Gymraeg Bodringallt
YSGOL GYNRADD GYMRAEG BODRINGALLT
YSTRAD, RHONDDA, CF41 7RX

ATHRO / ATHRAWES
(Cyfnod Mamolaeth Clawr)

32 ½ awr yr wythnos
Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon Clawr mamolaeth
Cytundeb: Dros dro - Cyfnod Mamolaeth Clawr
O’r 6ed o Dachwedd 2023 hyd Pasg 2024 (Tymor a Hanner)
Nifer o ddisgyblion : 150

Dymunai’r Corff Llywodraethwyr benodi athro/wes rhagorol i ymuno â’n hysgol deuluol a gofalgar i ddysgu dosbarth yn Adran y Babanod. Cynigir contract cyfnod mamolaeth am dymor a hanner.

Lleolir YGG Bodringallt ym mhentref Pentre, Rhondda. Ymfalchiwn yn ein naws gartrefol, ein safle pwrpasol ac effeithiol a’n ymroddiad at ddarparu cwricwlwm eang i’n disgyblion. Anelwn bod pob plentyn yn cyrraedd eu potensial, gyda’r darpariaeth i ddatblygu sgiliau sylfaenol da yn graidd i hyn.

Hoffwn benodi athro/wes ddosbarth, sy’n meddu ar sgiliau dysgu ac addysgu rhagorol. Dylai’r ymgeisydd lwyddiannus ddangos sgiliau cydweithio a chyfathrebu arbennig er mwyn gallu rhyngweithio’n effeithiol gydag holl rhanddeiliaid ein cymuned ysgol.

Mae modd cael ffurflenni cais, a rhagor o fanylion, gan gynnwys disgrifiad swydd a manyleb y person ar gyfer y rôl drwy Wefan Recriwtio Ysgolion gan ddefnyddio’r ddolen. https://ce0576li.webitrent.com/ce0576li_webrecruitment/wrd/run/ETREC105GF.open?WVID=2482495vvA&LANG=CYM

Sylwch, i wneud cais am y swydd yma mae'n ofynnol i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein ar Wefan Recriwtio Ysgolion

Os dydych chi ddim yn llenwi'r ffurflen gais ar-lein byddwn ni'n ystyried eich bod chi ddim wedi gwneud cais am y swydd.

Mae gennyn ni wefan recriwtio newydd a bydd angen i chi greu cyfrif newydd i wneud cais am y swydd yma.

Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch chi am y swydd, ffoniwch Dr Neil Pike, Pennaeth ar 01443 434096.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd (12pm) ar Dydd Gwener, Mehefin yr 16fed, 2023

Cyfweliadau i'w gynnal: Dydd Iau, Mehefin 22, 2023

MAE DIOGELU PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD YR YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD HEFYD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaethau anneuaidd, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTQ+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.