THE DETAILS:
  • Location: Crosskeys,
  • Subject: Welsh
  • Hours: Not Specified
  • Contract: Fixed Term
  • Salary Type: Hourly
  • Salary Range: £19.00 - £22.00
  • Language: Welsh

This job application date has now expired.

Darlithydd - Delir Fesul Awr - Cymraeg i Oedolion

Darlithydd - Delir Fesul Awr - Cymraeg i Oedolion

Coleg Gwent
Darlithydd - Delir Fesul Awr - Cymraeg i Oedolion
Job description
Cyfnod Penodol – 30.06.24

6 awr yr wythnos

Ydych chi eisiau bod yn rhan o dîm brwdfrydig a ymrwyma i ddarparu gwasanaeth dysgu Cymraeg rhagorol yn ardal Gwent? Os felly, beth am gyflwyno cais i ymuno â’n tîm o diwtoriaid proffesiynol?

Fel rhan o’r tîm, disgwylir i chi ddarparu gwersi Cymraeg i Oedolion o ansawdd uchel. Mae rhan sylweddol o’n dysgwyr yn ddechreuwyr pur, ond darperir gwersi ar bob lefel gan gynnwys Gloywi ar gyfer dysgwyr hynod brofiadol. Darperir cyrsiau ac adnoddau ar eich cyfer. Yn benodol, rydym yn chwilio am ymgeiswyr a fyddai’n fodlon gweithio gyda’r hwyr yn bennaf - o bosibl unwaith neu ddwywaith yr wythnos - ac ambell i ddydd Sadwrn neu ddydd Sul.

Gallwch chi ddewis pa lefelau hoffech chi eu dysgu, ynghyd â nifer yr oriau hoffech chi eu gweithio.
Fe’ch cefnogir yn llawn gan dîm proffesiynol a phrofiadol o staff a leolir ar Gampws Crosskeys, Coleg Gwent.

Gwahoddir ceisiadau gan ymgeiswyr profiadol sydd yn meddu ar gymhwyster dysgu TAR, er nad yw hwn yn hanfodol, a byddwn ni’n ystyried ceisiadau gan ymgeiswyr dibrofiad hefyd. Darperir hyfforddiant cyflawn yn ôl yr angen. Cynhelir cyfweliadau dros y we.

Mae'r Coleg wedi ymrwymo i ddiogelu, gan sicrhau diogelwch a lles plant a phobl ifanc. Mae cyflogaeth yn amodol ar Ddatgeliad Manwl boddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Noder y bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus dalu am y Datgeliad Manylach a chofrestriad gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (EWC).

Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys ethnigrwydd, rhyw, trawsryweddol, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd, yn unol â'n polisi Cyfleoedd Cydraddoldeb. Mae pob campws yn hygyrch ac mae cyfleusterau megis ystafelloedd gweddi ar gael.

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio a chadw pobl anabl, ac rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.

Dyddiad Cau: 25/06/2023

Dyddiad y Cyfweliad: Dydd Iau 11/07/2023 dros Zoom