THE DETAILS:.
  • Location: Gweithio Ystwyth,
  • Subject: Not supplied
  • Hours: Full time
  • Contract: Permanent
  • Start Date: Not supplied
  • End Date: Not supplied
  • Salary Type: Per annum
  • Salary: Uwch a Phrif Seicolegwyr Addysgol Graddfa B Pts 9-12 + SPA £68,884 - £72,999 y flwyddyn
  • Language: Any
  • Closing Date: 07 May, 2026 12:00 AM
Apply Now (CY)

Apply Now (EN)

You will be taken to an external page to complete your application.

Prif Seicolegydd Addysgol

Blaenau Gwent County Borough Council

Salary: Uwch a Phrif Seicolegwyr Addysgol Graddfa B Pts 9-12 + SPA £68,884 - £72,999 y flwyddyn

Os ydych chi'n angerddol am gynhwysiant ac am wneud gwahaniaeth gyda phobl ifanc, hoffem glywed gennych chi! Rydym yn chwilio am Brif Seicolegydd Addysgol angerddol a deinamig i arwain tîm o gydweithwyr cyfeillgar a chreadigol sy'n canolbwyntio ar atebion ac sy'n angerddol am gynhwysiant a gwella canlyniadau i blant a phobl ifanc. Mae hwn yn gyfle unigryw i weithio'n agos gyda myfyrwyr, staff a theuluoedd i wneud effaith ystyrlon ar fywydau disgyblion trwy ymyrraeth uniongyrchol, cymorth systemig a datblygiad ysgol gyfan.

Ym Mlaenau Gwent, rydym am i'n hysgolion a'n lleoliadau fod yn gynhwysol i'n holl blant a phobl ifanc trwy feddwl yn therapiwtig, ystyried anghenion unigol, a datblygu perthnasoedd ymddiriedus i alluogi ein plant a'n pobl ifanc i ffynnu. Trwy ein rôl gyswllt, rydym yn gweithio mewn cydweithrediad ag athrawon arbenigol, ysgolion a lleoliadau i gymhwyso arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth i sicrhau bod pob plentyn yn perthyn.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am arwain y weledigaeth strategol ar gyfer ymarfer seicoleg addysg a chyflwyno'r gwasanaeth. Bydd y deiliad swydd llwyddiannus yn chwarae rhan allweddol wrth weithredu rhaglenni cenedlaethol ochr yn ochr â thîm arwain brwdfrydig. Mae'r ystod lawn o ddyletswyddau a manylion y rôl o fewn y swydd-ddisgrifiad sydd ynghlwm.

Mae'r swydd hon wedi'i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Ymgymerir â phroses gwiriadau cyn cyflogi cynhwysfawr a fydd yn cynnwys Ddatgeliad Manylach gyda Rhestr Gwahardd Plant .

Mae mynediad i gerbyd at ddibenion gwaith yn un o ofynion y rôl.

I gael gwybodaeth am ailgyflogaeth ac ailgyflogi cyn-weithwyr, cyfeiriwch at Bolisi Tâl y Cyngor.

Amdanom ni

Ym Mlaenau Gwent, rydym yn angerddol am y gwaith a wnawn a'r effaith a gawn. Rydym yn grymuso ein staff i wneud newidiadau ystyrlon a chymryd camau i wella ein gwasanaethau.

Am ragor o wybodaeth cliciwch yma.

Eisiau gofyn cwestiwn i ni?

Am ragor o wybodaeth neu os hoffech gael trafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Mr Eurig Towns, Pennaeth Gwella Ysgolion, ( eurig.towns@blaenau-gwent.gov.uk ).

Dyddiad Cau:

Dydd Iau, 7fed Mai 2026, 12:00 hanner nos

Dyddiad Cyfweld:

Dydd Mercher, 20fed Mai 2026