THE DETAILS:
  • Hours: Full time
  • Salary Type: Annual
  • Salary: Grade 4 | £25,584 - £26,835 Pro Rata
  • Language: Welsh
Apply Now (CY)

Apply Now (EN)

You will be taken to an external page to complete your application.

Cynorthwyydd Addysgu yn yr Hwb - Ysgol Abersychan

Torfaen Local Authority

Salary: Grade 4 | £25,584 - £26,835 Pro Rata

Annwyl Ddarpar Ymgeisydd
Diolch am ddangos diddordeb mewn gwneud cais am swydd Cynorthwyydd Addysgu yn yr Hwb yn Ysgol Abersychan. Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â'r ysgol wrth iddi ehangu ei darpariaeth i gefnogi myfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, yn enwedig y rheiny sydd ag anghenion cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol. Yn ddiweddar, sicrhaodd Ysgol Abersychan bartneriaeth gyda'n heglwys leol, Noddfa, i ddatblygu ein darpariaeth 'Hwb' oddi ar y safle, i wella profiadau addysgol ar gyfer gr&slshquot;{p bach o fyfyrwyr o flynyddoedd 9, 10 ac 11.
Mae Ysgol Abersychan yn ysgol uwchradd gyfun i ddisgyblion 11-16 oed ac mae'n diwallu anghenion plant o bob gallu. Rydyn ni'n ysgol sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod ein holl bobl ifanc yn hapus, yn llwyddiannus ac yn barod ar gyfer eu bywydau y tu hwnt i'r ysgol. Mae ein disgwyliadau a'n safonau yn uchel. Mae gennym staff ymroddgar a gofalgar iawn sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn yn cyflawni y gorau sydd o fewn eu gallu personol. Ar hyn o bryd mae gan yr ysgol 770 o fyfyrwyr, 50 o athrawon a 58 aelod o staff cymorth. Mae'r ysgol yn gwasanaethu ardal o amddifadedd economaidd-gymdeithasol sylweddol ac mae gan 32% o'r myfyrwyr hawl i gael prydau ysgol am ddim. Mae 51% o'r myfyrwyr yn byw yn yr 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Cyflawnir nodau'r ysgol trwy system fugeiliol gadarn, ymrwymiad i ddarparu profiadau dysgu o ansawdd uchel a dewis helaeth o weithgareddau chwaraeon, diwylliannol, cerddorol ac allgyrsiol. Mae'r myfyrwyr yn hapus, yn gweithio'n galed ac yn teimlo'n bositif am yr ysgol. Maen nhw'n gaffaeliad go iawn i'n cymuned ac yn gyfeillgar dros ben. Maen nhw eisiau cael addysg o ansawdd uchel a dod yn fyfyrwyr llwyddiannus. Mae gennym rieni a llywodraethwyr gwych, sy'n gefnogol dros ben ac yn cefnogi'r ysgol i ddarparu'r addysg orau bosibl.
Os ydych chi'n llawn cyffro am y posibilrwydd o chwarae rhan bwysig i'n helpu i gyflawni ein huchelgeisiau, yn credu y gall pob myfyriwr, waeth beth fo'u cefndir neu eu gallu, gyflawni, ac os ydych yn teimlo'n angerddol am ddarparu addysg ragorol, yna byddem wrth ein boddau i glywed gennych! Yn gyfnewid, rwy'n gwarantu'n bersonol y cewch y gefnogaeth orau bosibl
Yn y cyfamser, os hoffech ragor o wybodaeth neu os hoffech ymweld â'r ysgol, mae croeso i chi gysylltu â'r Dirprwy Bennaeth, Keri Powell trwy keri.powell@abersychanschool.co.uk .
Yn gywir iawn Rhodri Thomas Pennaeth
Dyddiad Cau: 11.59pm 30 Ebrill 2025 Cyfweliad: I'w Gadarnhau
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen . Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ond nid yn hanfodol.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.