THE DETAILS:
  • Subject: Teacher
  • Hours: Part time
  • Contract: Fixed Term
  • Salary Type: Annual
  • Language: English

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes Cymraeg (Cyfnod Mamolaeth) - Ysgol Bro Preseli

Pembrokeshire County Council
Disgrifiad Swydd

Mae'r rhain yn swyddi ar gyfer Cyflenwi Mamolaeth, amser llawn

Gwahoddir ceisiadau ar gyfer y swyddi ganlynol i gychwyn 1af o Ionawr 2024.

Mae'r ysgol yn awyddus i apwyntio 2 berson brwydfrydig sy'n meddu ar y cymwysterau priodol i ddysgu ar draws yr ystod oedran yn y sector uwchradd.

Disgwylir i'r ymgeiswyr fod yn frwd dros addysg Gymraeg ac yn barod i gyfrannu i weithgareddau allgyrsiol. Dyma gyfle i ymuno gydag adran lwyddiannus sy'n sicrhau deilliannau uchel. Mewn Adroddiad Thematig Estyn yn 2020 nodwyd 'Mae brwdfrydedd a dyhead yr arweinwyr i gyflwyno gymaint o brofiadau amrywiol a chyfoethog i'r dysgwyr trwy gyfrwng y Gymraeg law yn llaw yn destun balchder.' Chwiliwn am 2 berson brwdfrydig, gweithgar, gyda chymwysterau da i weithio yn yr adran flaengar a ffyniannus hon.

Fel ysgol sy'n addysgu disgyblion o 3-19 bydd ymrwymiad i gyd-gynllunio profiadau ysgogol i'n disgyblion wrth i ni barhau i ddatblygu'r Cwricwlwm i Gymru ar draws yr ysgol, yn hanfodol.

Telir cyflog yn unol â Graddfa Cyflog Athrawon i ymgeiswyr addas yn ôl profiad a chymwysterau.

Bydd yr Awdurdod yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.

Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb a/neu angen mwy o wybodaeth i drafod yn anffurfiol â'r Pennaeth Mrs Rhonwen Morris. Manylion pellach ynglŷn â'r swydd uchod oddi wrth y Pennaeth ac yna ceisiadau drwy gwblhau'r ffurflen gais, llythyr ac enwau dau ganolwr, i'r Pennaeth, Ysgol Bro Preseli, Crymych, Sir Benfro, SA41 3QH, erbyn dydd Llun, 25ain o Fedi 2023

Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.

Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
  • Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein neu os oes arnoch angen cymorth drwy anfon e-bost at recruit@pembrokeshire.gov.uk.
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2022. Mae dyfarniad cyflog 2023 yn yr arfaeth.
  • Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.