THE DETAILS:
  • Subject: Deputy Headteacher
  • Hours: Full time
  • Salary Type: Not Supplied
  • Language: Welsh
  • Closing Date: 09 October, 2023 12:00 AM

This job application date has now expired.

Dirprwy Bennaeth (Ysgol Gymraeg Dyffryn y Glowyr)

Powys County Council
Dirprwy Bennaeth (Ysgol Gymraeg Dyffryn y Glowyr)
Job description
Mae Ysgol Gymraeg Dyffryn y Glowyr yn ysgol hapus a llwyddiannus sy'n darparu addysg cyfrwng Cymraeg i 342 o ddisgyblion rhwng 4 a 11 oed. Agorwyd yr ysgol yn Ionawr 2013. Mae gan yr ysgol ganolfan anghenion arbennig sy'n galluogi'r ysgol i fod mor gynhwysol ȃ phosibl. Mae'r ysgol hefyd yn cydweithio'n agos iawn gyda'r lleoliadau cyn-ysgol sy'n rhannu'r safle. Mae'r ysgol wedi tyfu o ran niferoedd yn flynyddol ac yn cynnig addysg Gymraeg o'r radd flaenaf i blant yr ardal.

Yn dilyn dyrchafiad y cyn-ddirprwy, mae Corff Llywodraethol yr ysgol yn awyddus i benodi ymarferydd rhagorol i ymuno â thîm cefnogol, brwdfrydig a chydwybodol.

Rydym yn chwilio am rywun sydd;
  • yn ymarferydd rhagorol yn yr ystafell ddosbarth gyda disgwyliadau uchel o ran dysgu
  • yn gallu arwain eraill i gyrraedd safonau rhagorol o addysgu a dysgu
  • yn gallu arwain ar y cwricwlwm newydd, gyda dealltwriaeth ragorol o addysgeg
  • â llwyddiant blaenorol o wella iechyd a lles disgyblion
  • â llwyddiant blaenorol o godi safonau
  • â llwyddiant blaenorol o arwain ar asesu a chymedroli
  • yn gallu tystiolaethu profiad o gyfrannu'n llwyddiannus at wella ysgol ac arwain ar fentrau arloesol yn yr ysgol
  • yn gallu cyfathrebu'n effeithiol rhwng rhanddeiliaid mewn ysgol fawr a phrysur
  • yn gallu dangos ymrwymiad ac angerdd tuag at gynhwysiant
  • yn ystyried ethos gofalgar yn flaenoriaeth mewn ysgol
  • yn gallu dangos blaengaredd a'r gallu a pharodrwydd i wneud gwahaniaeth
  • yn gallu cydweithio gyda'r Corff Llywodraethol a'r Pennaeth i roi cyfeiriad clir a strategol i'r ysgol
  • sicrhau partneriaeth agos a phositif rhwng yr ysgol, rhanddeiliaid a'r gymuned ehangach
  • yn gallu tystiolaethu safon uchel iawn o Gymraeg llafar ac ysgrifenedig
  • yn gallu dirprwyo yn absenoldeb y pennaeth yn hyderus yn unol ȃ disgwyliadau'r pennaeth a'r Corff Llywodraethol.
Gallwn gynnig y canlynol i chi:
  • Gweithle lle ystyrir hapusrwydd a pharch at eraill yn hanfodol.
  • Cyfle a chefnogaeth i ddatblygu fel arweinydd ysgol.
  • Tîm ymroddedig o staff a llywodraethwyr.
  • Disgyblion cyfeillgar ac ymroddgar.
  • Partneriaeth gref â rhanddeiliaid.

MAE'R GALLU I GYFATHREBU'N YSGRIFENEDIG AC AR LAFAR I SAFON UCHEL YN Y GYMRAEG A'R SAESNEG YN HANFODOL I'R SWYDD HON.

Gofynnir i ymgeiswyr sy'n dymuno ymweld â'r ysgol gysylltu â swyddfa'r ysgol ar 01639 846060. Sylwch y bydd ymweliadau'n digwydd ar ôl oriau ysgol.

This is an advert for Deputy Headteacher (Ysgol Gymraeg Dyffryn y Glowyr), where the abilty to speak Welsh is essential.