THE DETAILS:
  • Hours: Part time
  • Contract: Temporary
  • Salary Type: Annual
  • Language: Welsh
  • Closing Date: 17 October, 2023 12:00 AM

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Addysgu (Cynradd) Lefel 1 (Ysgol Glantwymyn)

Powys County Council
Cynorthwyydd Addysgu (Cynradd) Lefel 1 (Ysgol Glantwymyn)
Job description
Welsh Language Skills are essential for this position

YSGOL GLANTWYMYN

Sydd yn rhan o Ffederasiwn Carno, Glantwymyn a Llanbrynmair

i ddechrau mor fuan â phosib

Swydd cyfnod penodol (Awst 31 2024)

28 awr yr wythnos gyda'r posibilrwydd i ymestyn y contract yn unol â chyllideb yr ysgol 2024-2025

Nifer y disgyblion yn Ysgol Glantwymyn 77

Rydym yn chwilio am gynorthwyydd dysgu brwdfrydig i weithio fel aelod o'n tîm bach a chyfeillgar. Dylai fod gan ymgeiswyr brofiad o weithio gyda phlant a rhaid iddynt fod yn siaradwr Cymraeg rhugl.

Byddai'r swydd am 28 awr yr wythnos ar gontract penodol

Yn Ysgol Glantwymyn rydym yn ymfalchïo mewn darparu addysg o safon uchel i'r holl ddisgyblion ochr yn ochr â darparu awyrgylch gofalgar, cynnes a chyfeillgar sy'n cael ei gefnogi hefyd gan dîm ymroddedig o staff, llywodraethwyr a rhieni.

Mae trafodaethau neu ymweliadau anffurfiol i'w croesawu drwy apwyntiad ymlaen llaw gyda Pennaeth y Ffederasiwn Mrs Bethan G Jones neu'r Pennaeth Cynorthwyol Miss Llinos Roberts.

ffôn: 01650 511394 e-bost office@glantwymyn.powys.sch.uk

Dychwelir y ffurflenni cais i'r awdurdod erbyn y diwrnod cau: Dydd Mawrth 17 Hydref.

Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS

Ar hyn o bryd mae gan Gyngor Sir Powys dâl atodol Cyflog Byw Gwirioneddol yn ôl disgresiwn i weithwyr sy'n ennill llai na £10.90 yr awr.