THE DETAILS:
Apply Now (CY)
- Location: Penarth / Llandough,
- Hours: Not Specified
- Contract: Temporary
- Salary Type: Annual
- Salary: 32433.00 - 49944.00 GBP per Year
- Language: English
Apply Now (EN)
You will be taken to an external page to complete your application.
Athro - Ysgol Gynradd Llandochau (Dros Dro - Rhan Amser)
Vale of Glamorgan Council
Salary: 32433.00 - 49944.00 GBP per Year
Am yr YsgolMae Ysgol Gynradd Llandochau yn ysgol gynradd mynediad un dosbarth yn Llandochau. Mae 185 o ddisgyblion ar y gofrestr, o Feithrin hyd at Flwyddyn 6. Fel ysgol, anelwn at ddarparu awyrgylch hapus ac ysgogol sy'n caniatáu i blant ffynnu a rhagori gan feithrin ethos anogol sy'n galluogi pob plentyn i lwyddo.
Mae gennym gyfle gwych i athro cryf, uchel ei gymhelliant, trefnus i ymuno â'n hysgol lewyrchus.
Mae'r Corff Llywodraethol, staff a disgyblion yn chwilio am athro arloesol i ymuno â ni ar gam nesaf ein taith. Mae Ysgol Gynradd Llandochau yn ysgol fyfyriol ragorol sy'n ymdrechu'n barhaus i wella. Mae'n gyfle delfrydol i rywun sy'n gyffrous wrth ddysgu ac sy'n awyddus i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymuned ysgol.
Uchelgeisiol: Meddwl, cofleidio ffyrdd newydd o weithio a buddsoddi yn ein dyfodol.
Agored: Yn agored i syniadau gwahanol a bod yn atebol am y penderfyniadau a wnawn.
Gyda'n Gilydd: Gweithio gyda'n gilydd fel tîm sy'n ymgysylltu â'n cwsmeriaid a'n partneriaid, yn parchu amrywiaeth ac yn ymrwymedig i wasanaethau o safon.
Balch: Balch o Fro Morgannwg; yn falch o wasanaethu ein cymunedau ac i fod yn rhan o Gyngor Bro Morgannwg.
Ynglŷn â'r rôl
Manylion Cyflog: Prif Raddfa Athro:
Prif Raddfa Athro - TMS:
TMS1(MIN) N/A
TMS2 £32,433
TMS3 £35,039
TMS4 £37,739
TMS5 £40,710
TMS6 £44,802
Graddfeydd Cyflog Uwch Athrawon:
UPS1 £46,446
UPS2 £48,168
UPS3 £49,944
Oriau Gwaith / Wythnosau y flwyddyn / Patrwm Gwaith: Rhan amser , 43 wythnos y flwyddyn, Dydd Llun - Dydd Gwener
Prif Weithle: Ysgol Gynradd Llandochau
Math o Gontract: Dros Dro (Yn dechrau 1 Medi 2025)
Disgrifiad: Gwahoddir ceisiadau gan athrawon deinamig, profiadol sydd â chymwysterau addas. Rydym yn chwilio am athro ysbrydoledig ac uchelgeisiol sydd ag angerdd am ddarparu'r cyfleoedd dysgu gorau oll i'n holl ddysgwyr ac am sicrhau lles pawb sy'n ymwneud â bywyd ein hysgol. Mae corff llywodraethu Ysgol Gynradd Llandochau wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac yn disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd â Datgeliad Manwl trwy'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Amdanoch Chi
Mae llywodraethwyr wedi ymrwymo i benodi athro sydd:
- Yn meddu ar hanes profedig o arfer dosbarth rhagorol;
- Hanes profedig o godi cyrhaeddiad disgyblion;
- Meddu ar sgiliau rheoli dosbarth da iawn;
- Yn meddu ar weledigaeth glir a disgwyliadau uchel ar gyfer gwella'r ysgol;
- Meddu ar sgiliau personol ac adeiladu tîm ardderchog;
- Ymrwymiad cryf i weithio'n agos gyda llywodraethwyr, rhieni a'r gymuned ehangach.
Bydd y Llywodraethwyr yn darparu cefnogaeth effeithiol i'r ymgeisydd llwyddiannus, sy'n dangos ymrwymiad cryf i weithio'n agos gyda nhw, i ddarparu arweinyddiaeth o ansawdd uchel a'r addysg orau bosibl i'n plant.
Yn gyfnewid, gallwn gynnig:
- Plant brwdfrydig, chwilfrydig, a chyfeillgar.
- Ymrwymiad cryf i ddatblygiad proffesiynol.
- Ysgol lwyddiannus gyda dyheadau uchel a chyfle gwirioneddol i wneud gwahaniaeth.
- Cyfle i helpu i lunio dyfodol addysgu a dysgu.
- Tîm ymroddedig a chefnogol o staff proffesiynol a Llywodraethwyr.
Ffurflenni wedi'u cwblhau i'w dychwelyd at: Mark Ellis, Pennaeth - Ysgol Gynradd Llandochau, Heol Dochdwy, Llandochau, Bro Morgannwg, CF642QD.
Ffôn: 02920 702835
E-bost: llandoughps@valeofglamorgan.gov.uk
Gweler y disgrifiad swydd / manyleb person atodedig am ragor o wybodaeth